Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 14 Medi 2016.
Byddaf yn gwneud datganiad yn fuan y mis nesaf ynglŷn â’r is-adran cymunedau a’n gweledigaeth ar gyfer y cyfleoedd i gymunedau ar draws Cymru, a fydd yn fwy manwl o ran sut rydym yn gweld trechu tlodi yn ymddangos ar frig ein hagenda. Gwnaeth yr Aelod ddatganiad cyffredinol iawn am yr hyn sydd heb weithio gyda chyllid Ewropeaidd, ond ni roddodd unrhyw fanylion i mi ynglŷn â’r hyn sydd heb weithio, ond rwy’n fwy na hapus i gael trafodaeth bellach gyda’r Aelod. Yr hyn y dylem ei wneud yw peidio â bod yn amharod i wynebu risg yn rhai o’r pethau a wnawn. Weithiau mae’n rhaid i ni dreialu pethau mewn cymunedau, i weld os ydynt yn gweithio er mwyn gwneud y newid, ac rwy’n credu y dylem fod yn gadarnhaol iawn ynglŷn â’r rhaglenni rydym wedi eu gwneud ac wedi eu darparu a pheidio â bychanu Cymru drwy’r amser.