Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 14 Medi 2016.
Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Er mwyn cydlynu’r gwaith hollbwysig hwn yn y Llywodraeth, rydym wedi sefydlu tîm rhianta pwrpasol, a fydd yn gyrru’r agenda hon. Mae fy swyddogion eisoes wedi dechrau ar y broses o ymgysylltu â rhieni a rhanddeiliaid eraill er mwyn llywio datblygiad y ddeddfwriaeth hon. Rwy’n dymuno bod yn gynhwysol yn y broses hon ac rwy’n siŵr y bydd gan yr Aelod lawer i’w ychwanegu.