<p>Ymosodiadau Corfforol</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 14 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:39, 14 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, fe gewch gefnogaeth os byddwch yn cyflwyno deddfwriaeth yn y maes hwn, gan y Ceidwadwr hwn beth bynnag. [Torri ar draws.] Wel, rwy’n cofio fy mod i a nifer o gyd-Aelodau ar y meinciau hyn, mewn Cynulliadau blaenorol, wedi dweud ei bod yn bryd symud ymlaen a rhoi diwedd ar yr arfer hwn. Mae’n rhaid i mi ddweud nad wyf yn cytuno’n llwyr â geiriad y cwestiwn, oherwydd, yn amlwg, byddai plant yn cael eu diogelu rhag ymosodiad corfforol o dan y gyfraith bresennol. Rydym yn siarad am yr hyn roedd cenedlaethau blaenorol yn ei alw’n ‘gosb resymol’. Ond rwy’n cytuno â Julie Morgan, mae’n ymwneud â chefnogi rhieni, ac nid addysg yn unig yw hynny, ond sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yno, fel bod gennym sefydliadau gofal plant effeithiol, er enghraifft, a meysydd eraill o gymorth, fel nad yw rhieni’n teimlo o dan bwysau mawr, a all weithiau arwain at rwystredigaeth a diffyg rheolaeth. Felly, mae’n becyn cyfan. Ond mae’n hen bryd bellach i ni basio deddf yn y maes hwn.