Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 14 Medi 2016.
Diolch i’r Aelod am ei gefnogaeth. Gwneuthum amcan bras o Aelodau a allai fod yn gefnogol i’r ddeddfwriaeth, wrth inni symud ymlaen, a chredaf ein bod ar y trywydd iawn o ran hynny ar hyn o bryd. Gobeithiaf y gallwn barhau â’r ddeialog honno.
Mae’r Aelod yn iawn ynglŷn ag amddiffyn pobl ifanc. Mae llu o ddeddfau eisoes ar waith, ond nid yw’r gwaith wedi ei gyflawni eto ac mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn rhoi cyfle i rianta cadarnhaol, a dyna pam y credaf na ddylem droseddoli rhieni, ond y dylem geisio cefnogi rhieni, ac mae hyn yn rhywbeth y byddaf yn ceisio ei wneud wrth i ni symud ymlaen.