<p>Tlodi Plant yng Ngorllewin De Cymru</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 14 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 2:41, 14 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddoch, yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Sefydliad Joseph Rowntree ei adroddiad, ‘We Can Solve Poverty in the UK’, a dynnai sylw at bum pwynt. Un o’r rhain oedd cryfhau teuluoedd a chymunedau, sy’n rhan o’ch cylch gwaith. Maent hefyd yn cynnwys pedwar argymhelliad. Yn fy etholaeth i, sef Aberafan, mae llawer o deuluoedd yn ei chael hi’n anodd ac yn wynebu cryn heriau. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau y gall y teuluoedd hyn elwa o well cymorth i deuluoedd, megis Teuluoedd yn Gyntaf? A wnewch chi sicrhau y bydd cyllid Teuluoedd yn Gyntaf yn parhau y tu hwnt i’r cyfnod presennol?