Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 14 Medi 2016.
Credaf ein bod wedi cael cryn lwyddiant gyda Twf Swyddi Cymru, ac rwy’n sicr y byddai’r Aelod yn cefnogi ymrwymiad ein maniffesto i gynyddu nifer y prentisiaethau i bob oedran ledled Cymru i 100,000. Fel y mae’r Aelod yn cydnabod, ceir nifer o bethau sy’n effeithio ar gydnerthedd cymunedol a chydnerthedd teuluol: mae addysg, swyddi a sgiliau a lles i gyd yn rhan o hynny. Fel y dywedais yn gynt wrth yr Aelod blaenorol, byddaf yn gwneud datganiad yn ddiweddarach yr wythnos nesaf ynglŷn â’n gweledigaeth gymunedol, ynglŷn â’r hyn y dylai cymorth y rhaglen honno ei olygu a sut y gallwn ddatblygu hynny ar gyfer y dyfodol.