<p>Hawliau Pobl Ifanc</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 14 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:45, 14 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Mae ein hymrwymiad i blant a phobl ifanc wedi ei ymgorffori mewn deddfwriaeth ac nid yw’r penderfyniad i adael yr UE yn newid hyn yn uniongyrchol. Mae buddsoddi mewn plant a phobl ifanc ​yn beth sylfaenol dda i’w wneud. Mae’n gwneud synnwyr er lles y gymdeithas ac er budd hirdymor yr economi.