<p>Hawliau Pobl Ifanc</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 14 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 2:46, 14 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mae’r canlyniad ar 23 Mehefin wedi achosi pryder ymysg llawer o bobl, ac nid yw pobl ifanc yn ddiogel rhag hyn. Fe fyddwch yn ymwybodol, rwy’n siŵr, o’r gwrthdystiad mawr a gynhaliwyd y tu allan i’r adeilad hwn yn dilyn y penderfyniad i adael y DU, wedi’i drefnu gan fyfyrwyr. A ydych wedi ystyried eto pa effaith a gaiff y gostyngiad posibl i gyllid ymchwil ar gyfer prifysgolion ar ragolygon pobl ifanc a’u gallu i gyrraedd eu potensial llawn? A ydych, er enghraifft, wedi cynnal trafodaethau â’ch cyd-Aelodau yn y Cabinet ynglŷn â cholli cyfleoedd o ran rhaglenni fel rhaglen Erasmus, a sut y gellir lliniaru hynny? Yn olaf, a fyddwch yn gwneud popeth yn eich gallu i gefnogi senedd i’r ifanc yng Nghymru fel cyfrwng i bobl ifanc fynegi eu pryderon a dod at ei gilydd i weithredu ar y cyd ar faterion pwysig sy’n effeithio arnynt, fel gadael yr UE?