Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 14 Medi 2016.
Rwy’n ddiolchgar am sylwadau a chwestiynau’r Aelod. Wrth gwrs, fe fydd yr Aelod yn ymwybodol o gyhoeddiad y Prif Weinidog ei fod wedi sefydlu is-bwyllgor Cabinet, sydd eisoes wedi cynnal ei gyfarfod cyntaf, i ystyried goblygiadau gadael yr UE a beth y mae hynny’n ei olygu i Lywodraeth Cymru, a’r trafodaethau ledled y DU. Nid wyf wedi cael cyfarfod uniongyrchol gyda fy nghyd-Aelodau ynglŷn â’r cyllid ymchwil, ond credaf fod hynny’n mynd rhagddo gyda’r adran honno.
O ran y senedd i’r ifanc, mae safbwynt y Llywodraeth wedi bod yn glir iawn: rydym yn cefnogi senedd i’r ifanc, ond credwn mai mater i’r Comisiwn ydyw, ac rwy’n siŵr fod y Comisiwn wedi clywed hynny’n glir iawn heddiw ac mewn gohebiaeth flaenorol.