Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 14 Medi 2016.
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i awdurdodau lleol ddarparu addysg gynnar i bob plentyn tair a phedair oed yng Nghymru. Mater i’r awdurdodau lleol yw sut y cyflenwir y ddarpariaeth hon, a gallant ddewis ei darparu mewn ysgolion neu feithrinfeydd y sector preifat a’r sector gwirfoddol.