2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru ar 14 Medi 2016.
7. A wnaiff Llywodraeth Cymru barhau i flaenoriaethu darpariaeth gofal plant mewn meithrinfeydd sy'n gysylltiedig ag ysgolion dros feithrinfeydd preifat? OAQ(5)0036(CC)
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i awdurdodau lleol ddarparu addysg gynnar i bob plentyn tair a phedair oed yng Nghymru. Mater i’r awdurdodau lleol yw sut y cyflenwir y ddarpariaeth hon, a gallant ddewis ei darparu mewn ysgolion neu feithrinfeydd y sector preifat a’r sector gwirfoddol.
Mae’r ddarpariaeth yng Nghymru yn canolbwyntio i raddau helaeth ar ysgolion, o gymharu ag economi fwy cymysg dros y ffin. A yw’r Gweinidog wedi ystyried efallai y byddai llawer o rieni yn croesawu mwy o ddewis rhwng meithrinfeydd mewn ysgolion a meithrinfeydd annibynnol, ac efallai y byddent yn hoffi’r cyfle, er enghraifft, i gael nifer llai o ddiwrnodau llawnach yn yr wythnos yn hytrach na phum diwrnod o ddwy awr a hanner y dydd?
Yn wir, rydym wedi ystyried y mater o ddarparu gofal plant ymhellach, a bydd yr Aelod yn ymwybodol y bydd ein hymrwymiad maniffesto i ddarparu gofal plant o safon yn cael ei gyflwyno yn gynt, ac y byddwn yn rhoi’r rhaglen honno ar waith ledled Cymru erbyn diwedd y flwyddyn nesaf. Mae hyn yn ymwneud â darparu gwasanaethau i bobl ifanc ledled Cymru gyfan.
Fel y gwyddoch, rwy’n siŵr, cydnabyddir yn gyffredinol fod cynnwys ymarferwyr ar lefel raddedig mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar yn effeithio’n gadarnhaol iawn ar ganlyniadau addysgol y blynyddoedd cynnar hynny. Wrth gwrs, yn ôl yn 2014, drafftiodd y Llywodraeth ei chynllun gweithlu 10 mlynedd ar gyfer gofal plant a chwarae y blynyddoedd cynnar. A allwch ddweud wrthym pa bryd y mae hwnnw’n debygol o weld golau dydd, gan eich bod braidd yn amwys, gawn ni ddweud, yn eich llythyr i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg? A allwch roi rhywbeth i ni allu gweithio arno?
Rwy’n ddiolchgar am allu’r Aelod i neidio i gwestiwn 15 yn y cwestiwn atodol a ofynnodd heddiw. Ond mae’r cynllun drafft 10 mlynedd yn nodi’r cynlluniau uchelgeisiol i ddatblygu gofal plant y blynyddoedd cynnar. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar asesu effaith nifer o ddatblygiadau polisi cyn cwblhau cynllun y gweithlu. Mewn gwirionedd, credaf fod un o’r materion sy’n codi yn awr yn ymwneud â’r rhaglen ddarparu gofal plant rydym yn ceisio ei chyflawni. Gwn fod yr Aelod yn cefnogi gofal plant o ansawdd, a gofal plant wedi ei ddarparu gydag ansawdd. Mae hynny’n rhywbeth y mae’n rhaid i ni weithio drwyddo hefyd. Rydym yn gweithio gydag adrannau eraill i sicrhau y gallwn gwblhau hynny. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod yn benodol gyda—ysgrifennais at y pwyllgor, ac nid wyf yn sicr a yw’r Aelod wedi derbyn copi o’r llythyr hwnnw, ond byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod yn benodol.
Roedd maniffesto’r blaid Lafur yn etholiadau’r Cynulliad yn addo cynnig 30 awr yr wythnos o ofal plant am ddim i rieni sy’n gweithio. Bwriadwyd i hyn gael ei ddarparu drwy amrywiaeth eang o ddarparwyr, gan gynnwys ysgolion, gofalwyr plant, grwpiau chwarae a gofal dydd. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi gwybod i’r Cynulliad pa gyfran o ofal plant yng Nghymru a ddarperir gan feithrinfeydd preifat o gymharu â’r rhai sydd ynghlwm wrth ysgolion?
Nid yw’r niferoedd hynny gennyf, ond rwy’n ddiolchgar iawn i’r Aelod am ailadrodd ymrwymiad ein maniffesto a groesawyd yn gadarnhaol iawn. Byddwn yn cyflawni hynny yn ystod tymor y Llywodraeth hon, ac fel y dywedais yn gynharach, byddwn yn ceisio dechrau’r rhaglenni peilot yn ystod hydref y flwyddyn nesaf. Mae’n rhaglen gymhleth iawn, ond byddwn yn darparu ar gyfer pobl Cymru, a bleidleisiodd dros hynny.