<p>Gofal Plant</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 14 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:50, 14 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Fel y gwyddoch, rwy’n siŵr, cydnabyddir yn gyffredinol fod cynnwys ymarferwyr ar lefel raddedig mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar yn effeithio’n gadarnhaol iawn ar ganlyniadau addysgol y blynyddoedd cynnar hynny. Wrth gwrs, yn ôl yn 2014, drafftiodd y Llywodraeth ei chynllun gweithlu 10 mlynedd ar gyfer gofal plant a chwarae y blynyddoedd cynnar. A allwch ddweud wrthym pa bryd y mae hwnnw’n debygol o weld golau dydd, gan eich bod braidd yn amwys, gawn ni ddweud, yn eich llythyr i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg? A allwch roi rhywbeth i ni allu gweithio arno?