Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 14 Medi 2016.
Roedd maniffesto’r blaid Lafur yn etholiadau’r Cynulliad yn addo cynnig 30 awr yr wythnos o ofal plant am ddim i rieni sy’n gweithio. Bwriadwyd i hyn gael ei ddarparu drwy amrywiaeth eang o ddarparwyr, gan gynnwys ysgolion, gofalwyr plant, grwpiau chwarae a gofal dydd. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi gwybod i’r Cynulliad pa gyfran o ofal plant yng Nghymru a ddarperir gan feithrinfeydd preifat o gymharu â’r rhai sydd ynghlwm wrth ysgolion?