Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 14 Medi 2016.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Aberafan wedi elwa o gronfeydd adfywio’r UE ac wedi gweld llawer o brosiectau’n cael eu datblygu yn y cymunedau, gan gynnwys cwm Afan. Yn amlwg, bydd penderfyniad pobl Prydain i adael yr UE yn dod â’r ffrwd gyllido hon i ben. Ond nid yw hynny’n atal effaith y caledi sy’n deillio o San Steffan, yn enwedig ar yr awdurdodau lleol sy’n gorfod wynebu rhai o’r heriau, ac mae’r adroddiad heddiw gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn nodi bod hynny’n mynd i gynyddu eto fyth. Yn eich atebion cynharach i lefarydd Plaid Cymru mewn perthynas â’r UE, fe ddywedoch eich bod yn gwneud ychydig o ddadansoddi, ond pa baratoadau rydych yn eu hystyried i ni allu chwilio am ffrydiau cyllido amgen, gan eich bod yn gwybod y bydd y ffrydiau cyllido hynny’n diflannu a bod y cymunedau hynny’n dal i fod angen y cymorth?