Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 14 Medi 2016.
Mae’r gwaith hwn yn wirioneddol anodd, a phe baem yn credu’r rhai a oedd eisiau gadael yr UE, yna ni ddylem boeni gormod ynglŷn â’r swm o arian y dylem ei gael yn ôl i Gymru, ond mae gennyf fy amheuon ynglŷn â’r swm o arian a gawn. Mae’r Prif Weinidog ac is-bwyllgor y Cabinet yn parhau i arwain y gwaith o ran sut olwg fydd ar y setliad ariannol a’r amodau ynghlwm wrtho. Wrth gwrs, rydym yn ystyried yn barhaol sut y gallwn wneud y defnydd gorau o’n buddsoddiadau a’r arian cyfyngedig sydd ar gael yn amodol ar adael yr UE, ond mae’n dal yn rhy gynnar i geisio canfod yn union ble y gall y buddsoddiadau hynny fod ar gyfer y dyfodol.