<p>Strategaeth i Fynd i’r Afael â Thlodi Plant</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 14 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:57, 14 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol mai’r unig beth sy’n mynd i drechu tlodi plant mewn gwirionedd yw polisi integredig iawn ar draws meysydd y Llywodraeth. Er enghraifft, mae’r lefel o anweithgarwch economaidd yn cael effaith fawr ar nifer y plant sy’n byw mewn tlodi. Gobeithiaf y byddwch yn siarad â’ch cyd-Aelodau, Gweinidog yr economi a’r Ysgrifennydd addysg, fel y gallwn sicrhau bod cyrsiau addysg bellach a chyrsiau addysg uwch, er enghraifft, yn fwy hygyrch—mwy o gyrsiau rhan-amser, mwy o gymorth ariannol—fel y gall pobl ddatblygu eu sgiliau, naill ai i fynd i mewn i’r farchnad lafur neu i gael swydd well o fewn y farchnad lafur honno.