Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 14 Medi 2016.
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Rydym wedi gweld gostyngiad bychan o 2 y cant mewn tlodi plant yma yng Nghymru. Credaf fod hynny’n rhannol oherwydd economeg Cymru, gyda mwy o swyddi a llai o bobl ifanc yn byw mewn cartrefi di-waith. Mae’n rhywbeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yn arwain arno o ran y strategaeth tlodi, ond rydym yn gweithio’n agos iawn gyda’n gilydd i sicrhau ein bod yn cydgysylltu ar bob agwedd ar y gwaith a wnawn.