Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 14 Medi 2016.
Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn, ac wrth gwrs, rwy’n talu teyrnged i’r nifer o wasanaethau sy’n rhoi cymorth i bobl sy’n dioddef o drais domestig, a chaiff achosion eraill eu cefnogi drwy Gymru a ledled y DU. Rwy’n bryderus iawn nad yw llety â chymorth, gan gynnwys llochesi i fenywod, wedi eu heithrio rhag y cap lwfans tai lleol. Rydym wedi cyflwyno sylwadau i’r Adran Gwaith a Phensiynau. Rwy’n gobeithio y bydd yr oedi cyn mabwysiadu’r polisi yn rhoi cyfle i’r Gweinidog feddwl ynglŷn â hyn ac y byddant yn newid eu meddwl ynglŷn â’r ddarpariaeth hon.