Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 14 Medi 2016.
Wrth gwrs, un o’r ffyrdd y gallwn liniaru effeithiau diwygio lles y DU ar gymunedau Cymru yw dechrau datblygu system Gymreig unigryw yn ei le. Roeddwn yn ddiolchgar iawn i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb cadarnhaol, cyn toriad yr haf, i’r awgrym o ddatblygu ‘Nawdd Cymdeithasol Cymru’ fel cysyniad yn seiliedig ar wneud y gorau o’r cyfleoedd sydd gennym gyda’r pwerau presennol, ond hefyd i geisio sicrhau rhagor o bwerau lles gan y wladwriaeth Brydeinig yn y dyfodol. Tybed a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu ei fwriadau o ran bwrw ymlaen â’r syniad hwnnw.