<p>Diwygiadau Lles</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 14 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 3:02, 14 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Yn ddiweddar, cysylltodd etholwr â mi a oedd wedi cael ei heffeithio gan ddementia cynnar, a chynghorwyd iddi roi’r gorau i weithio a gwneud cais am daliadau annibyniaeth bersonol. Roedd fy etholwr yn ofidus a theimlai nad oedd yn cael ei gwerthfawrogi gan fod ei hasesiad wedi canolbwyntio’n llwyr ar ei gallu corfforol yn hytrach na’i hanghenion iechyd meddwl. A ydych yn cytuno, Ysgrifennydd y Cabinet, fod hyn yn annerbyniol a’i fod yn amlygu nad yw diwygiadau nawdd cymdeithasol Llywodraeth y DU yn addas at y diben, ac a wnewch chi fynegi’r pryderon hyn yn yr holl drafodaethau perthnasol gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau?