Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 14 Medi 2016.
Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, er mwyn bod yn gymwys i dderbyn taliadau annibyniaeth bersonol, mae’n rhaid i unigolyn fod â chyflwr iechyd hirdymor neu anabledd, sy’n cynnwys cyflyrau iechyd meddwl, ac yn benodol, cyflyrau cynyddol fel dementia. Byddaf yn gofyn i fy swyddogion holi’r Adran Gwaith a Phensiynau am eglurhad pellach ynglŷn â sut y maent yn cyflawni eu hasesiadau ar gyfer taliadau annibyniaeth bersonol i bobl â chyflyrau iechyd meddwl, ac efallai yr hoffai’r Aelod ysgrifennu ataf yn benodol ynghylch yr achos hwn, a byddaf yn mynd ar drywydd hynny iddi.