5. 5. Dadl Plaid Cymru: Datblygu Economaidd

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 14 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 3:04, 14 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Credaf fod y ddadl hon, yn enw Plaid Cymru, yn canolbwyntio ar un o’r heriau allweddol, yn ôl pob tebyg—yr her ganolog—i’r Cynulliad hwn, sef bodloni gofynion topograffeg economaidd newydd, os mynnwch, y dirwedd wedi’r bleidlais i adael yr UE.

Y rhagofyniad cyntaf i sicrhau polisi da yw dealltwriaeth gyffredin: rydym oll ar yr un dudalen. Credaf fod hynny’n rhan o’r her sy’n ein hwynebu wrth ddatblygu strategaeth newydd, a deall graddau’r her. Yn ôl pob tebyg, mae economi Cymru, yn y cyfnod ar ôl yr ail ryfel byd, wedi wynebu tri chyfnod pwysig o newid economaidd: yn syth ar ôl y rhyfel, yna’r cyfnod o ailstrwythuro diwydiannol o’r 1960au ymlaen, y 1960au hwyr, y 1970au a’r 1980au, yn bennaf drwy ddirywiad glo a dur, ac yna yn y cyfnod ar ôl 1996, yn enwedig yng nghyfnod y bunt uchel, ac mewn gwirionedd, roedd derbyn gwledydd dwyrain Ewrop yn aelodau hefyd yn creu heriau penodol i ni. Nawr, rydym ar fin wynebu her hyd yn oed yn fwy, o bosibl. Yn fyd-eang, pan edrychwn ar yr hyn a elwir yn farweidd-dra seciwlar yr amgylchedd, sef y math hwn o ddirywiad yn y cyfraddau twf economaidd rhyngwladol, polisi cyllidol ac ariannol—dau faswca mawr polisi economaidd, fel y’u gelwir weithiau—wedi eu dihysbyddu, yn ôl pob golwg, a chystadleuaeth fyd-eang gynyddol, wedi ei gyrru’n rhannol gan yr arafu mewn marchnadoedd domestig, hyd yn oed yn Tsieina, nid yw’n amgylchedd addawol i ni fod yn wynebu heriau domestig hefyd, ond dyma ble’r ydym ar hyn o bryd.

O ystyried y tri chyfnod hwnnw wedi’r rhyfel, yr hyn a welwch yw ymgais i greu set o bolisïau, patrwm polisi economaidd newydd a oedd, i ryw raddau, yn llwyddiannus: polisi rhanbarthol yn y DU yn symud gweithgarwch economaidd o amgylch y DU yn y cyfnod ar ôl yr ail ryfel byd; a mewnfuddsoddi yn y 1980au, a Chymru’n gwneud yn gymharol dda, ac weithiau, wrth gwrs, yn cyflawni cyfrannau mewnfuddsoddi mor uchel â 25 y cant o’r DU gyfan. Dyma’r trydydd cyfnod ers 1996 i ni weld gostyngiad serth yn ein cyfran o werth ychwanegol gros cymharol. Wrth gwrs, mae’r cyfnod hwnnw wedi cyd-daro â chyfnod datganoli. Roedd datganoli i fod yn ateb i broblemau economaidd Cymru. Nid yw’r difidend datganoli y cyfeiriwn ato’n aml wedi cyflawni, o ran polisi economaidd o leiaf. Credaf fod yr Aelod dros Lanelli yn hollol iawn wrth ein hatgoffa am y ddadl honno ynglŷn â’r difidend datganoli. Dywedodd yn ystod yr haf, o ran y prawf hwnnw, nad yw wedi llwyddo hyd yn hyn i gyflawni ei botensial er gwaethaf ymdrechion parhaus. Felly, mae’n her i bob un ohonom a etholwyd i’r lle hwn wynebu’r prawf hwnnw yn awr, a dod o hyd i strategaeth economaidd newydd sy’n gallu ateb prawf yr oes sydd ohoni.

Nawr, onid yw hynny’n bwysicach fyth wrth gwrs yng nghyd-destun gadael yr UE? Mae’r angen am ateb wedi cynyddu ymhellach byth. Mae’n rhaid i mi gyfaddef—ac rwy’n ceisio bod yn deg yn hytrach na’n orfeirniadol yma—nid wyf wedi fy argyhoeddi gan yr ymateb a glywsom hyd yn hyn gan Lywodraeth Cymru. Ydy, mae’n ddryslyd. Mae cymaint o opsiynau ar y bwrdd fel bod angen cwmpawd arnoch: Norwy, y Swistir, Canada; mae Lichtenstein yn un newydd—wrth gwrs, mae Lichtenstein yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd ond roedd moratoriwm yno am naw mlynedd ar ryddid i symud; yr Ynys Las o chwith; undeb tollau; rheolau Sefydliad Masnach y Byd; a chynnig y bartneriaeth gyfandirol, a awgrymwyd gan felin drafod Bruegel dros yr haf ac sy’n meddu ar rai rhinweddau.

Credaf y byddem i gyd yn derbyn bod angen rhywfaint o hyblygrwydd ac ystwythder meddwl mewn sefyllfa sy’n newid yn gyflym, ac yn sicr, mae cyfle hefyd i ni yng Nghymru—canfod ateb pwrpasol yn hytrach na dewis ateb prêt-à-porter: syniad newydd ar gyfer cyfnod newydd. Ond ni ddylai hynny fod yn rysáit ar gyfer dryswch. Credaf mai dyna a gawsom hyd yn hyn gan Lywodraeth Cymru ar y model sydd er lles gorau Cymru—y math o ymadawiad. Oherwydd, gadewch i ni fod yn glir, mae pobl Cymru wedi pleidleisio dros adael yr UE, fel y gwnaeth pobl y DU, ond yr hyn rydym yn dadlau yn ei gylch yn awr yw pa ddrws y byddwn yn gadael drwyddo, ac mae drysau o wahanol liwiau ar gael i ni; gwahanol drothwyon; a gwahanol gyrchfannau ar ben y daith. Mae’n bwysig fod y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn mynegi’r hyn sydd er lles gorau Cymru.

Yn anffodus, mae’n rhaid i mi ddweud, clywsom dri pholisi gwahanol gan y Prif Weinidog mewn dau ddiwrnod, ambell waith yn ystod yr un sesiwn. Yn y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ac Allanol, pan gafodd ei herio gan fy nghyd-Aelod, Steffan Lewis, dywedodd nad oedd yn cefnogi aelodaeth o’r farchnad sengl, ond yn hytrach, y term mwy amwys, ‘mynediad’. Wel, pwy sy’n gwrthwynebu mynediad? Pan gafodd ei herio ar y cwestiwn hwn eto gan arweinydd yr wrthblaid, dywedodd ei fod, ac wedi bod erioed, o blaid aelodaeth o’r farchnad sengl—yn y dôn nawddoglyd honno—a gofynnodd, ‘Ble mae e wedi bod? Onid yw wedi bod yn darllen y papurau newydd?’ [Chwerthin.] Aeth yn ei flaen i ddweud wedyn—[Torri ar draws.] Aeth yn ei flaen i ddweud wedyn—[Torri ar draws.] Aeth yn ei flaen i ddweud wedyn ei fod yn ffafrio—[Torri ar draws.] Aeth yn ei flaen i ddweud ei fod yn ffafrio cytundeb masnach rydd, neu Gymdeithas Masnach Rydd Ewropeaidd, ond y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, gan y byddai hynny’n osgoi ymrwymiad i ryddid i symud—er iddo ddweud ddydd Llun ei fod yn ystyried mai modelau’r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Gymdeithas Masnach Rydd Ewropeaidd yw’r rhai mwyaf ymarferol o bell ffordd, a dweud yn fuan wedi’r bleidlais i adael yr UE fod rhyddid i symud yn llinell goch o’i ran ef. Felly, rwyf wedi drysu’n llwyr. Gwahoddaf Weinidog, unrhyw Weinidog, i fod yn nawddoglyd wrthyf ar bob cyfrif. Efallai y buaswn ychydig yn ddoethach pe baech yn ymyrryd, os nad yn awr, ac efallai y gallem gael rhywfaint o eglurder ynglŷn â beth yw safbwynt presennol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â gadael yr UE.

Gan symud ymlaen at y strategaeth economaidd, mae’n rhaid i mi ddweud bod hyn yn peri dryswch hefyd. Mae gennym strategaeth economaidd gyfredol o hyd: ‘Adnewyddu’r Economi: cyfeiriad newydd’. Fe’i cyhoeddwyd yn 2010. Yn swyddogol, honno yw strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru o hyd. Ar y pryd—roedd y cliw yn y teitl, ‘cyfeiriad newydd’—roedd i fod yn newid sylweddol yn y meddylfryd, oddi wrth yr hen ddiwylliant grantiau a thuag at ymagwedd fwy strategol, yn lle hynny, at greu’r amodau ar gyfer llwyddiant economaidd, yn hytrach na’r hen ffordd, yn y bôn, o lwyddiant economaidd yn dod drwy ysgrifbin gweinidogol ac arian yn cael ei ddyrannu i gwmnïau unigol. Roedd hefyd i fod yn fwy strategol drwy ganolbwyntio ar rai sectorau allweddol—nifer cyfyngedig o sectorau allweddol lle credem fod gan Gymru fantais gystadleuol benodol: arbenigo craff, fel y’i gelwir weithiau yn y jargon.

Yr hyn a ddigwyddodd, wrth gwrs, oedd y bu newid yn y weinyddiaeth, a chollwyd y meddwl tu ôl i’r strategaeth rywsut. Felly, y peth cyntaf a ddigwyddodd oedd ychwanegu tri sector ychwanegol, gyda rhai ohonynt yn eithaf mawr, fel adeiladu. Yn wir, cyfrifodd rhywun fod 90 y cant o fusnesau yng Nghymru, yn ôl pob tebyg, yn rhan o’r sectorau targed mewn gwirionedd. Wel, nid targedu yw hynny, nage? Nid blaenoriaethu yw hynny. Gwelsom y diwylliant grantiau’n ailymddangos yn araf bach; yr ysgrifbinnau gweinidogol hynny, yn y bôn, yn brif ysgogiad polisi i’r Llywodraeth ac yn microreoli’r economi. Mae’r dystiolaeth yn eithaf clir fod dewis enillwyr yn broses sy’n llawn anhawster. Yr hyn y dylai’r Llywodraeth ei wneud yw canolbwyntio ar y meysydd hynny lle mae gennym fantais gystadleuol a buddsoddi mewn sgiliau a seilwaith. Ie, mewn datblygiadau penodol gyda chwmnïau a sectorau penodol, ond ei wneud gan ddefnyddio dull clwstwr yn hytrach na dim ond dyrannu arian yn y ffordd hen ffasiwn.

Do, rydym wedi cael dinas-ranbarthau fel rhyw fath o ymgais wan i gael strategaeth ofodol ar ôl i’r weinyddiaeth flaenorol gael gwared ar y cynllun gofodol. Ond beth y mae hynny’n ei olygu i’r Cymoedd? Beth y mae hynny’n ei olygu i gefn gwlad gorllewin Cymru? Ble mae’r strategaeth yno? Unwaith eto, yn anffodus, mae gwacter syniadol wrth wraidd strategaeth economaidd y Llywodraeth ar hyn o bryd. Er mwyn llenwi’r gwacter, rydym wedi awgrymu creu asiantaethau datblygu wedi eu targedu ac yn meddu ar ffocws er mwyn sicrhau’r math o arweinyddiaeth strategol nad ydym wedi ei chael gan y Llywodraeth hyd yn hyn. Yr obsesiwn sydd wrth wraidd polisi’r Llywodraeth yw swyddi. Nid niferoedd targed o swyddi—sy’n aml yn dwyllodrus, mewn gwirionedd, fel y gwelsom—yw’r broblem allweddol erbyn hyn ar lefel genedlaethol gydag economi Cymru. Hynny yw, mae’r Llywodraeth wrth gwrs yn tynnu sylw at y ffaith fod diweithdra yng Nghymru yn is yn awr na chyfradd ddiweithdra’r DU. Felly, nid y ffaith ein bod yn gwneud yn waeth o ran diweithdra sy’n egluro ein perfformiad economaidd gwanach; mae ar lefel lawer dyfnach na hynny mewn gwirionedd. Mae’n ymwneud â chystadleurwydd, mae’n ymwneud â chynhyrchiant. Nid yw’n ymwneud â nifer y swyddi, nid yw’n ymwneud â nifer y pennau. Mae’n ymwneud ag ansawdd swyddi, y mathau o sectorau busnes, nifer y busnesau newydd a’r diwylliant entrepreneuraidd y mae angen i ni ei greu er mwyn creu busnesau’r dyfodol. Dyna ble y dylem fod yn buddsoddi, yn hytrach nag yn y ffordd hen ffasiwn hon o gyfrif pennau, wedi ei gyrru gan ddatganiadau i’r wasg, o ddyrannu arian am ddim i fusnesau, nad ydynt, fel y gwelsom yn aml yn anffodus, yn darparu’r swyddi a addawyd. Rydym wedi gweld nifer o enghreifftiau o hynny yn ddiweddar: Universal Engineering, Kukd, Kancoat, ac ati.

Rydym yn sylweddoli bod methiant yn rhan annatod o’r economi, ond wrth siarad am arian cyhoeddus, mae angen i ni sicrhau ein bod yn ei fuddsoddi yn y mannau y bydd yn cael yr effaith fwyaf, yn enwedig ar ôl gweld yn y ffigurau cystadleurwydd a gyhoeddwyd heddiw—mae ei ddarllen yn sobreiddio onid yw? Allan o 379 o ardaloedd awdurdodau lleol, mae gan Gymru bump yn y 10 isaf, yn y 10 sydd ar y gwaelod: Sir Gaerfyrddin, Caerffili, Ceredigion, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, ar y gwaelod un. Ac unwaith eto, mae’r cwpwrdd yn wag ar hyn o bryd o ran polisïau economaidd gan y Llywodraeth hon sydd wedi eu targedu at yr ardaloedd hynny. Mae Cylchffordd Cymru, wrth gwrs, yn syniad ysbrydoledig, a byddwn yn annog y Llywodraeth i roi’r gorau i’w osgoi. Mae’r prosiect hwnnw wedi bod ar waith ers saith mlynedd ac mae’n addo trawsnewid yr ardal honno. Dyna’r math o feddwl a ddaw o’r sector preifat, pan fo’r sector cyhoeddus, yn anffodus, yn ein dal yn ôl drwy newid yr amodau’n gyson.

Rydym wedi cyflwyno ein syniadau ein hunain yn rhaglen yr wrthblaid. Credaf ei fod yn gam cadarnhaol, ac efallai ei fod yn dweud rhywbeth, mewn gwirionedd, pan nad ydym wedi gweld y rhaglen lywodraethu eto. Rydym wedi cael rhaglen yr wrthblaid. Mae mwy o syniadau yn dod oddi ar feinciau’r wrthblaid ar hyn o bryd nag sy’n dod gan y bobl â’u dwylo ar liferi grym. Mae’n rhaid i hynny newid os ydym am newid cyflwr economaidd Cymru mewn gwirionedd. Rydym yn gefnogol iawn i’r syniad o greu asiantaeth ddatblygu genedlaethol. Creasom dempled a gopïwyd drwy’r byd gydag Awdurdod Datblygu Cymru—brand gwych, ond patrwm o sut i ddatblygu ac ailstrwythuro economi. Wrth gwrs, rydym am ei wneud ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Nid ydym yn sôn am aros gyda pholisïau’r gorffennol. Credaf mai dyna’r broblem gyda’r Llywodraeth yn dychwelyd at yr obsesiwn hwn â chymorth grant. Rydym eisiau Awdurdod Datblygu Cymru ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Mae’r Llywodraeth, drwy’r cyngor cynghorol ar arloesi, yn ymgynghori â busnesau—ac mae’r ymateb wedi bod yn gadarnhaol iawn yn ôl yr hyn a ddeallaf—ynglŷn â’r syniad o greu asiantaeth arloesi genedlaethol. Ai cwango yw hwnnw? Cawn ein beirniadu’n aml, ‘O, dim ond eisiau creu cwangos ydych chi’. Wel, mae’n gorff hyd braich sydd ag arbenigedd, sy’n siarad yr un iaith â busnesau, sy’n meddu ar ffocws penodol, ac a fydd yn bwrw ymlaen â’r gwaith.

Ac mae’r un peth yn wir am ein cynnig i gynyddu buddsoddi yn seilwaith Cymru. Gwelsom y newyddion gan Lywodraeth yr Alban eu bod yn cyflwyno cynlluniau i sicrhau cynnydd o £4 biliwn o fuddsoddiad yn y seilwaith y flwyddyn nesaf. Dyna’r math o arweinyddiaeth sydd ei angen arnom, ac mae angen dulliau ar y Llywodraeth i allu gwneud hynny, pobl ag arbenigedd ar gyllido buddsoddiad yn y seilwaith, o ran rheoli prosiectau ar raddfa fawr. Ni fydd hynny’n digwydd o fewn y gwasanaeth sifil yng Nghymru, a dyna pam y mae creu comisiwn seilwaith cenedlaethol mor bwysig.