Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 14 Medi 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nid oes amheuaeth, wrth gwrs, fod y blynyddoedd nesaf yn mynd i fod yn rhai heriol, yn sicr. Ond rwy’n credu mai’r her wirioneddol yw sicrhau ein bod yn dod mas yn gryfach y pen arall nag yr ŷm ni, wrth gwrs, ar hyn o bryd o safbwynt yr economi yma yng Nghymru. Fel y cysgod-Weinidog â chyfrifoldeb dros addysg a sgiliau ac yn y blaen, mae’n amlwg bod yn rhaid inni wneud defnydd llawn o’r potensial sydd gennym yng Nghymru i adeiladu economi gryfach ar y seiliau cadarn yna o safbwynt creadigrwydd, arloesodd, mentergarwch—fel roedd Adam yn sôn amdanyn nhw yn gynharach—a defnyddio’r cyfle yma nawr sydd gennym i greu cyfundrefn well.
Mewn trafodaeth ddiweddar ynglŷn â phrentisiaethau yma yng Nghymru fe wnaethpwyd y pwynt, wrth gwrs, fod cyflogwyr yn amlwg yn allweddol i unrhyw gynllun prentisiaeth llwyddiannus ac mae’n rhaid cael cyflogwyr yn rhan annatod, yn bartneriaid parod, i gamu ymlaen i chwarae eu rhan. Ond yr un peth nad yw cyflogwyr yn ei licio, wrth gwrs, yw anghysondeb, yw rhaglenni sydd yn mynd a rhaglenni sydd yn dod ac wedyn mae pethau’n newid ac ar ôl blwyddyn neu ddwy mae’r ‘goalposts’ yn symud ac yn y blaen. Maen nhw angen cysondeb, maen nhw angen dilyniant, maen nhw angen sicrwydd.
Mae’r rhaglenni sydd gennym ni yng Nghymru, wrth gwrs, yn pwyso’n drwm iawn ar gyllid Ewropeaidd o safbwynt prentisiaethau a hyfforddiant yn y gweithle. Y tueddiad yw eu bod yn gynlluniau dwy neu dair blynedd, oherwydd y ffaith bod yr amodau hynny’n dod o gyfeiriad Ewropeaidd. A oes cyfle fan hyn, er enghraifft, nawr i greu rhaglenni sydd yn rhaglenni tymor hirach a meddwl yn wahanol, yn hytrach na’n bod ni’n gorfod newid mor aml, a’n bod yn creu tirlun mwy cyson sy’n fwy cydnaws ag ymwneud y sector busnes, a fydd wrth gwrs yn golygu wedyn ein bod ni’n llwyddo i ddatblygu mwy o’r sgiliau a mwy o’r arbenigeddau sydd eu hangen arnom ni?
Ond nid yw rhywun yn cael y teimlad o gyfeiriad Llywodraeth Cymru fod y strategaeth yno yn gadarn ac yn gyhyrog—yn sicr yn y misoedd cyntaf yma yn dilyn y refferendwm. Rwyf wedi cyfeirio yn y gorffennol at y ffaith i’r Gweinidog sgiliau ddatgan—yn ddigon teg, a dweud y gwir—ei bod hi’n mynd i barhau â nifer o’r rhaglenni sy’n ddibynnol ar arian Ewropeaidd, oherwydd mae’r addewidion wedi cael eu gwneud y bydd yr arian yn dod o rywle arall, er, wrth gwrs, efallai nad oedd hawl gan rai o’r unigolion yna i wneud yr honiadau hynny. Ond mae’r agwedd yn ddigon cadarnhaol yn hynny o beth: rŷm ni’n mynd i gario ymlaen achos, os nad ŷm ni, beth ŷm ni’n ei wneud? Rŷm ni’n aros yn llonydd. Ond, ar yr union un diwrnod, mi oedd yna Weinidog arall, a oedd yn gyfrifol am amaethyddiaeth, yn cyhoeddi ei bod hi’n gohirio rhai o’r rhaglenni oherwydd yr ansicrwydd. Wel, dyna chi ddwy adran yn cymryd agweddau cwbl wahanol i’r un broblem. Yn sicr, i mi, roedd hynny’n amlygu’r ffaith nad oedd strategaeth benodol, nad oedd dynesiad pwrpasol gan Lywodraeth Cymru i’r sefyllfa fel rŷm ni yn ei hwynebu hi.
Wrth gwrs, mae myfyrwyr rhyngwladol yn gwneud cyfraniad pwysig i’n sefydliadau addysg uwch ni yma yng Nghymru. Rŷm ni yn gwybod bod gwariant myfyrwyr rhyngwladol yn cefnogi dros 7,000 neu bron i 7,500 o swyddi yng Nghymru yn 2015, a bod yr ‘impact’ nid ond yn yr ardaloedd lle mae yna brifysgolion, ond mewn ardaloedd eraill o Gymru hefyd. Mae un swydd yn cael ei chreu am bob tri myfyriwr sy’n dod o du allan i’r Undeb Ewropeaidd; mae un swydd yn cael ei chreu am bob pum myfyriwr sy’n dod i Gymru o du fewn i’r Undeb Ewropeaidd. Mae £203 miliwn mewn taliadau gan fyfyrwyr rhyngwladol i brifysgolion Cymru. Mae gwariant personol myfyrwyr rhyngwladol dros £300 miliwn. Mae yna berig, yn sgil, wrth gwrs, y bleidlais, i ni golli’r cysylltiad a’r berthynas bwysig yna sydd gennym ni, a’r ddelwedd yna sydd gyda ni o fod yn wlad sy’n estyn ein breichiau allan at fyfyrwyr tramor i ddod a’u sgiliau, i ddod a’u harbenigeddau, atom ni.
Ac wrth gwrs nid yn unig mae’r canlyniadau economaidd uniongyrchol a ddaw yn sgil hynny, ond mi fyddai’n costio. Meddyliwch chi am y rhain i gyd yn mynd nôl wedyn, ac wedi creu cysylltiadau posibl masnachol, rhyngwladol i Gymru. Byddai hi’n costio ffortiwn i chi drio creu hynny mewn unrhyw ffordd arall. Ac mae sylwadau Theresa May ac Amber Rudd ynghylch y posibilrwydd o gyfyngu’r nifer o fisas myfyrwyr er mwyn cwrdd ag addewidion o safbwynt mewnfudo, i fi, yn gonsyrn mawr, ac yn sicr yn creu ansicrwydd pellach, a fydd yn niweidiol i’r sector yna.
Pwysigrwydd ymchwil a datblygu hefyd, wrth gwrs—yn amlwg, mae’n ganolog i unrhyw strategaeth economaidd gwerth ei halen, ac mae’r dychweliad, neu’r ‘return’, ar y buddsoddiad yna yn gallu bod yn sylweddol iawn. Rydym ni wedi gweld y ffigurau. Yn 2014, fe amcangyfrifwyd bod cyfanswm o ryw £716 miliwn wedi ei wario ar ymchwil a datblygu yng Nghymru. Mae hynny’n cynrychioli, wrth gwrs, 2.4 y cant o gyfanswm gwariant ymchwil y Deyrnas Unedig. Mae’n hen ddadl ynglŷn â’r angen i gynyddu hynny, ac i sicrhau ein bod yn cael ein siâr deg. Wel, mae yna gyfle fan hyn, gyda’r tirlun yna yn newid, i ni wneud yn iawn, efallai, am y tanfuddsoddi sydd wedi digwydd yn y gorffennol.
Yn ddiddorol iawn, hefyd, mae’r sector preifat yn cyfrannu rhyw 55 y cant tuag at y cyfanswm yna, addysg uwch rhyw 40 y cant, a’r Llywodraeth 5 y cant. Efallai bod lle i gynyddu hynny. Ond, yn sicr, mae’r topograffi economaidd yn un newydd, ac mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ei fod e’n gweithio o’n plaid ni, er gwaethaf unrhyw heriau.