Part of the debate – Senedd Cymru am 4:32 pm ar 14 Medi 2016.
Croesawaf y cyfle i siarad yn y ddadl y prynhawn yma. Mae’n gyfle i edrych ar fater sy’n effeithio ar yr holl wasanaethau iechyd ar draws y Deyrnas Unedig gyfan, ac yn wir ar draws y byd gorllewinol cyfan, ynglŷn â chreu amgylchedd staffio modern a’r timau amlddisgyblaethol sy’n ffurfio asgwrn cefn y gwasanaeth iechyd ym mha wlad orllewinol bynnag rydych yn digwydd byw ynddi. Ond mae’n ymddangos bod gan Gymru broblem barhaus gyda denu ac yn bwysig, gyda chadw staff i wneud yn siŵr y gall timau amlddisgyblaethol o’r fath barhau i weithio a darparu’r gwasanaeth. Yn aml iawn, nid oes fawr o bwynt os o gwbl mewn cael 90 y cant o’r tîm yn gyfan pan fydd yr un elfen bwysig, y 10 y cant, i ffwrdd, gan fod y tîm cyfan yn disgyn ar adegau felly.
Dysgais hynny yn y trydydd Cynulliad, pan gynhaliodd y pwyllgor iechyd ymchwiliad i wasanaethau strôc, ac aeth Dai Lloyd a minnau i’r uned strôc yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd, ac rwy’n credu ein bod i gyd yn falch iawn ein bod wedi cael uned newydd gan fod y cyfleusterau yno’n hynafol iawn—mae wedi cael ei symud i Landochau yn awr. Trwy weld sut oedd y tîm yn rhyngweithio â’i gilydd, gwelsom fod tynnu un elfen allan o’r tîm amlddisgyblaethol yn golygu y byddai’r rhan fwyaf o’r gwasanaeth adsefydlu a oedd ar gael i’r cleifion yn cael ei ohirio yn y bôn a byddai’r claf yn cael ei adael mewn limbo, heb unrhyw fai ar y tîm, ond oherwydd salwch efallai, neu absenoldeb neu anallu syml i ddenu gweithiwr allweddol, fel yn achos y therapydd lleferydd allweddol y soniodd Suzy Davies amdano—yr unigolyn allweddol a all hybu’r adsefydlu ac ailfywiogi bywyd y person hwnnw.
Mae’r ddadl hon heddiw, a agorwyd gan Angela Burns, yn gofyn yn awr i Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd geisio mapio, gyda chynllun pum mlynedd, yr hyn y mae am ei gyflawni drwy fynd i’r afael â rhai o’r melltithion—gadewch i ni eu galw’n hynny—sydd wedi andwyo’r gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru, am yr atyniad sydd angen i’r gwasanaeth iechyd ei gael i gadw pobl yn eu swyddi mewn amgylchedd llawn straen lle mae pobl yn gweithio ar eu gorau, gan dorchi llewys a chyflawni er lles y cyhoedd, ond sy’n teimlo yn y bôn, o flwyddyn i flwyddyn, wythnos ar ôl wythnos, o ddydd i ddydd, fod y pwysau’n mynd yn fwyfwy tebyg i amgylchedd coginio dan bwysedd. Maent naill ai’n troi cefn ar yr amgylchedd hwnnw neu’n gorfod cymryd cyfnodau hir o amser o’r gwaith oherwydd salwch ac nid ydynt yn cael y cymorth a fyddai’n caniatáu iddynt weithredu ar eu gorau. Rwy’n credu bod hwn yn gyfle yn awr, gyda’r etholiad y tu ôl i ni a ninnau yng nghamau cynnar y Llywodraeth hon, i roi sylw i rai o’r problemau anodd iawn hyn nad ydym wedi llwyddo i’w datrys dros lywodraethau olynol. Y peth pwysig yma yw sicrhau ein bod yn creu amgylchedd lle gall pobl gael hyder i ofalu am eu lles yn y tymor hir, i greu gallu i gamu ymlaen yn eu gyrfa, ond yn anad dim, i ymateb i’r galwadau cynyddol y mae’r gwasanaeth iechyd yn eu hwynebu ddydd ar ôl dydd heddiw yma yng Nghymru ac yn wir, ledled y Deyrnas Unedig.
Yn y Cyfarfod Llawn ddoe soniodd Julie Morgan am y ffaith fod cynnydd o rhwng 10,000 a 15,000 o bobl ym mhoblogaeth Caerdydd bob blwyddyn. Mae’n gynnydd enfawr mewn un ardal yn unig—mewn ardal sy’n gallu estyn allan a denu pobl newydd yn ôl pob tebyg. Ond pan estynwch hynny dros weddill Cymru ac yn arbennig, i rai o ardaloedd mwy gwledig Cymru, mae yna broblem wirioneddol gyda chael pobl i deithio i rannau pellaf gorllewin Cymru, er enghraifft. Mae Ysbyty Llwynhelyg, fel y mae fy nghyd-Aelodau, Paul Davies ac Angela Burns, wedi amlygu yma, yn ei chael hi’n anodd llenwi rotas a rhestrau dyletswyddau. Ni all fod yn ddigon da fod gwasanaethau’n cael eu hatal dros dro am ychydig o fisoedd eto am fod y mater hwn wedi codi’i ben eto. Rhaid cael ateb y gellir ei roi ar waith gan y Llywodraeth sydd â mandad i ddarparu GIG sy’n gweithio yma yng Nghymru, gwasanaeth y mae pobl eisiau gweithio ynddo.
Ddoe ddiwethaf yn wir cawsom y ffigurau sydd, yn anffodus, yn dangos bod gostyngiad o 15 y cant wedi bod yn nifer y myfyrwyr sy’n mynd ymlaen i astudio meddygaeth yma yng Nghymru. Gwelwyd y gostyngiad hwnnw ar draws y Deyrnas Unedig, rwy’n derbyn hynny, ond yma yng Nghymru mae’r gostyngiad yn fwy amlwg na rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Rhaid bod hynny’n ffynhonnell pryder mawr pan feddyliwch am y mentrau amrywiol a gyflwynwyd i geisio gwneud meddygaeth yn broffesiwn mwy deniadol dros y pump neu 10 mlynedd diwethaf, yn ffordd fwy deniadol o ddod â phobl i mewn i Gymru—nid ydym yn gwneud hynny. Nid ydym yn gweld hynny’n digwydd ar lawr gwlad yn ôl y ffigurau hynny. Ond yn bwysig hefyd, er ei bod yn bwysig meddwl am ddenu staff, mae cadw staff yn rhan wirioneddol bwysig, ‘does bosibl, o’r hyn y dylai gweithlu modern ymwneud ag ef. Rydym yn buddsoddi ac mae’r Llywodraeth yn buddsoddi a’r byrddau iechyd yn buddsoddi swm enfawr o arian i ddatblygu sgiliau a thalentau unigolion mewn amgylchedd hynod gymhleth ac eto, yn aml iawn drwy reoli gwael ac esgeulustod, mae’r unigolion hynny’n troi cefn ar yr yrfa honno, a gyrfa nad ydynt yn aml iawn wedi mynd ymhellach na hanner ffordd drwyddi neu efallai dri chwarter y ffordd drwy’r hyn a allai, o bosibl, gynnig cymaint mwy yn ôl. Felly, rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn defnyddio’r cyfle i ymateb i’r pwyntiau dilys a roddwyd gerbron, oherwydd mae ganddo fandad newydd. Mae ganddo fandad i’w gyflawni ac rwy’n gobeithio y bydd yn rhoi rhyw deimlad i ni sut y bydd yn bwrw ymlaen â chynigion y Llywodraeth newydd i fynd i’r afael â rhai o’r problemau strwythurol hirdymor hyn sydd wedi bod wrth wraidd y gwaith o ddarparu gwasanaeth iechyd modern ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain yma yng Nghymru.