Part of the debate – Senedd Cymru am 4:54 pm ar 14 Medi 2016.
Mae’n hollol amlwg gan bawb yn y Siambr sydd wedi siarad heddiw bod angen strategaeth, a hynny ar frys, i hyfforddi mwy o ddoctoriaid yng Nghymru. Rwyf i’n mynd i ddadlau bod y strategaeth yma yn gorfod bod yn un sydd yn digwydd ar draws Cymru. Mae gennym ni ddwy ysgol feddygol—un yng Nghaerdydd ac un yn Abertawe—ond nid oes gennym unrhyw beth o gwbl yn y gogledd nac yn y canolbarth. Os ydym yn mynd i ddechrau llenwi’r bylchau ar gyfer doctoriaid a meddygon teulu yn y gogledd, mae’n rhaid inni gynnig yr hyfforddiant yn y gogledd. Fel yr ydym wedi ei glywed droeon, mae myfyrwyr yn aros i fod yn feddygon yn yr ardal lle maen nhw wedi cael eu hyfforddi. Os nad ydym yn eu hyfforddi yn y gogledd, nid oes gobaith, nag oes? Mae’n mynd yn anodd iawn, felly, i gadw pobl yn yr ardal achos nid oes gennych chi ddim byd yno yn y lle cyntaf. Mae adroddiad gan yr Athro Longley o Brifysgol De Cymru yn dangos bod 95 y cant o ddoctoriaid sydd yn cael eu hyfforddi yng Nghymru yn aros yng Nghymru, sydd yn wych. Ond beth yr ydym ei eisiau yw bod mwy o ddoctoriaid yn aros yng Nghymru, ac yn sicr mae angen mwy yn aros ac yn symud i’r gogledd neu bydd y broblem jest yn mynd i fynd yn argyfwng gwaeth nag ydy o ar hyn o bryd.
Rwy’n falch iawn o glywed bod yna fomentwm y tu ôl i’r syniad o ysgol feddygol ar gyfer Bangor. Rwy’n falch iawn bod yna achos busnes yn cael ei lunio o’r diwedd gan Lywodraeth Cymru, ac rwy’n edrych ymlaen at ei weld. O ran y bobl yr wyf i wedi siarad â hwy—Prifysgol Bangor, bwrdd iechyd y gogledd, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, y gymdeithas feddygol—mae pawb o blaid yr egwyddor yma. Felly, mae o’n gwneud synnwyr llwyr i symud ymlaen ag o. Mae nifer o resymau penodol pam bod angen meddwl am hyn o ddifri rŵan. Mae’r brifysgol ym Mangor a’r bwrdd iechyd yn gweithio mewn partneriaeth yn barod. Mae Prifysgol Bangor yn barod yn cynnig amrediad eang o addysg iechyd meddygol a gofal cymdeithasol. Cam naturiol, felly, ydy atgyfnerthu safle Bangor fel canolfan ymchwil ac addysgol sydd o bwys rhyngwladol. Mi fyddai’r bwrdd iechyd a’r brifysgol yn elwa fel endidau. Byddai’n cryfhau’r ddau gorff, gan ddenu a chadw’r myfyrwyr gorau a’r staff academaidd a meddygol gorau. Yn ei dro, byddai hynny’n atgyfnerthu’r economi leol, efo dau sefydliad yn gyflogwyr lleol mawr.
Mi fedrid sefydlu canolfan i ddysgu meddygaeth drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mangor. Dyma yw’r lle naturiol i hynny ddigwydd, o gofio cryfder yr iaith yn yr ardal. Bydd hynny, yn ei dro, yn cynyddu’r cyflenwad o ddoctoriaid dwyieithog sydd eu hangen yn y gymdeithas. I gyflawni strategaethau eich Llywodraeth chi, er enghraifft, y strategaeth ‘Mwy na geiriau…’, mae angen y doctoriaid dwyieithog, ac nid oes digon ohonynt ar hyn o bryd. Byddai ysgol feddygol â phwyslais ar feddygaeth wledig yn unigryw, nid yn unig yng Nghymru. Byddai’n gallu cynnig atebion arloesol a denu myfyrwyr ar draws y byd sydd â diddordeb mewn cynnig gofal i boblogaeth sy’n heneiddio mewn cyd-destun gwledig mewn rhannau eraill o’r byd hefyd. Mwy na dim, byddai ysgol feddygol yn y gogledd yn gwella’r gwasanaeth y mae pobl y gogledd yn ei gael—nid oes dwywaith am hynny. Mae’r gogledd yn teimlo ei bod yn cael ei hanghofio. Byddwch yn ymwybodol o hynny. Mae yna deimlad ei bod yn cael ei gadael ar ôl. Dyma gyfle gwirioneddol rŵan i Lywodraeth Cymru ddangos cefnogaeth i’r gogledd ac i’r ardaloedd gwledig. Beth am fod yn uchelgeisiol? Beth am symud ymlaen a hyn? A pwy â ŵyr, yn ei dro, mi fyddai ysgol feddygol yn sbarduno hyfforddiant arall yn y gogledd—deintyddion, fferyllwyr, ffisiotherapyddion, ac yn y blaen. Felly, mae’r achos yn reit glir. Mae cyfres newydd ddechrau ar S4C o’r enw ‘Doctoriaid Yfory’. Roeddwn yn ei gwylio neithiwr. Mae cymaint o dalent yma. Mae angen rŵan cynnig cyfleoedd i fwy o bobl ifanc, fel y rhai yr ydym yn eu gweld yn y rhaglen yna, gael eu hyfforddi yma yng Nghymru ac yn y gogledd yn benodol. Pen draw hynny yw gwella y gwasanaeth iechyd i bawb.