Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 20 Medi 2016.
Rydym ni’n parhau i roi arweinyddiaeth a hybu cydweithrediad rhwng rhanddeiliaid yng Nghymru. Rydym ni wedi sefydlu tasglu a bwrdd gweithrediadau i sicrhau’r ddarpariaeth ac i oresgyn unrhyw rwystrau. Rydym ni hefyd wedi sefydlu is-grŵp plant i weithio'n rhagweithiol i ystyried y cymorth sydd ei angen ar gyfer cynlluniau sy'n dod i'r amlwg.