1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 20 Medi 2016.
2. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ymateb Llywodraeth Cymru i'r argyfwng ffoaduriaid presennol? OAQ(5)0146(FM)
Rydym ni’n parhau i roi arweinyddiaeth a hybu cydweithrediad rhwng rhanddeiliaid yng Nghymru. Rydym ni wedi sefydlu tasglu a bwrdd gweithrediadau i sicrhau’r ddarpariaeth ac i oresgyn unrhyw rwystrau. Rydym ni hefyd wedi sefydlu is-grŵp plant i weithio'n rhagweithiol i ystyried y cymorth sydd ei angen ar gyfer cynlluniau sy'n dod i'r amlwg.
Wel, diolch i chi am hynna, Brif Weinidog. Ddydd Sadwrn, ymunais â nifer o gydweithwyr o’r fan hon, a dweud y gwir, yn rali Stand as One yn Abertawe. Er bod Abertawe, ynghyd â Phort Talbot, wedi llwyddo i adsefydlu nifer fach iawn o ffoaduriaid, nid yw'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yng Nghymru wedi gwneud hynny. Nawr, mae Llywodraeth Cymru ac Aelodau'r Cynulliad wedi bod yn eglur ein bod ni eisiau croesawu ffoaduriaid yma. Fe wnaethoch chi gyhoeddi eich rhaglen adsefydlu pobl agored i niwed o Syria ddwy flynedd a hanner yn ôl, ac eto, erbyn mis diwethaf, dim ond 112 o ffoaduriaid yr oeddem ni wedi eu croesawu i Gymru. Nawr, mae Llywodraeth y DU yn dweud ei bod wedi sicrhau’r 20,000 o leoedd y mae wedi ymrwymo iddynt, felly pa gamau rhagweithiol ydych chi wedi eu cymryd i gael mwy o ffoaduriaid yma, yn gyflymach, a pham nad yw 13 o gynghorau wedi cymryd unrhyw ffoaduriaid o gwbl?
Wel, bydd yn rhaid i chi ofyn hynny i Lywodraeth y DU; eu cyfrifoldeb nhw yw e pan ddaw i adsefydlu ffoaduriaid. Rydym ni wedi gwneud ein safbwynt yn eglur iawn, iawn o ran yr hyn y byddwn yn ei wneud i'w helpu. Mae'n gywir i ddweud bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi tri chynllun adsefydlu yn ddiweddar. Rwyf eisiau i Gymru chwarae ei rhan i adsefydlu plant a ffoaduriaid agored i niwed yn y DU. Byddaf yn siarad â chadeirydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am sut y gallwn ni barhau i weithio gyda'r Swyddfa Gartref a llywodraeth leol pan fydd rhagor o wybodaeth am y cynllun yn dod i’r amlwg.
Brif Weinidog, un o'r materion y dylid rhoi sylw iddo er mwyn caniatáu i ffoaduriaid yng Nghymru gyfrannu'n llawn at fywyd yma, yw cydnabod yn briodol ac yn ddigonol y sgiliau a'r cymwysterau sydd ganddyn nhw. A wnewch chi gymryd camau i sicrhau bod hynny'n wir am bob ffoadur yma yng Nghymru?
Wel, yn sicr. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod y bobl hynny sydd â sgiliau y mae eu hangen ar ein heconomi ac ar ein gwasanaeth iechyd, bod y sgiliau hynny'n cael eu defnyddio. Ac, yn sicr, un o'r materion y byddwn ni eisiau ei archwilio gyda CLlLC—a'r Swyddfa Gartref, a dweud y gwir—yw sut y gallwn ni nodi’r bobl hynny o ran y sgiliau sydd ganddyn nhw.
Brif Weinidog, rydych chi eisoes wedi crybwyll y plant, ond mae 200 o blant mewn gwirionedd yn ardal Calais nad ydynt yn cael eu derbyn gan unrhyw Lywodraeth ar hyn o bryd, a hefyd yn Libanus a Syria, yn ogystal, yn ychwanegol at y 200. Rydym ni wedi gweld y lluniau erchyll ar ein sgriniau dros yr haf, ac, i fod yn blwmp ac yn blaen, mae’r ffaith nad ydym ni’n gwneud digon i'r plant hynny yn codi cywilydd, ac ni ddylent fod yn y fath sefyllfa o drawma na chael eu gadael ar eu pennau eu hunain i ymorol am eu bywydau. Nid wyf yn cyd-fynd â’r codi bwganod hyn mai nhw ddewisodd fynd i Calais, ac y bydd mwy yn dilyn oherwydd ein bod ni’n ceisio helpu’r plant ar eu pennau eu hunain hynny.
Heddiw, mae arweinwyr y byd yn casglu yn Efrog Newydd i drafod yr argyfwng ffoaduriaid. Felly, a wnewch chi ymuno â mi i ofyn i Lywodraeth y DU ddod â'r 200 o blant hyn i ddiogelwch ar unwaith? Ac rwyf hefyd yn gofyn i chi ymrwymo Cymru i helpu yn yr argyfwng digynsail hwn trwy dderbyn ein cyfran deg o blant ar eu pennau eu hunain o’r gwersylloedd yn y rhanbarth, yn ogystal ag yn Calais? A byddwn yn gwerthfawrogi pe na byddech yn dweud wrthym mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw hyn; beth ydych chi'n mynd i'w wneud, Brif Weinidog?
Wel, ym mis Tachwedd 2015, fe wnaethom ni sefydlu tasglu ffoaduriaid o Syria. Roeddem ni ar flaen y gad o bell ffordd o ran Llywodraethau eraill. Roeddem ni’n gwbl eglur y byddai Cymru yn cymryd cyfran deg o ffoaduriaid. Mae'r un peth yn wir am blant, wrth gwrs. Mae'r ffaith fod gan Lywodraeth y DU dri chynllun adsefydlu plant erbyn hyn yn gam i’r cyfeiriad cywir sydd i'w groesawu, ac rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod Cymru yn chwarae ei rhan lawn o ran croesawu plant, sy’n aml iawn wedi colli eu rhieni, plant sydd wedi gweld rhyfeloedd, plant sydd wedi gweld pethau o'u blaenau na fyddem fyth eisiau i unrhyw un—plant nac oedolion—eu gweld, ac rydym ni’n sefyll yn barod i helpu’r plant hynny.
Er fy mod i’n deall dymuniad yr Aelodau yma i hwyluso dyfodiad rhagor o ffoaduriaid, mae'n rhaid i ni hefyd gydnabod bod pryder eang yn y DU am nifer yr ymfudwyr economaidd sy'n ceisio cyrraedd y DU gan esgus bod yn ffoaduriaid. [Torri ar draws.] Am ffoaduriaid fydd hyn. Yr hyn yr hoffwn ei ofyn i'r Prif Weinidog yw pa fesurau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod y rhai sydd yn cyrraedd Cymru yn ffoaduriaid dilys.
Wel, yn gyntaf oll, os yw’n credu bod y bobl sy'n gadael Syria yn ymfudwyr economaidd, pan eu bod wedi gweld pobl yn cael eu lladd o’u blaenau, pan eu bod wedi gweld pobl yn cael eu llofruddio, pan eu bod wedi gweld pobl yn cael eu bomio, pan eu bod wedi gweld plant yn cael eu lladd, ac os yw ef wir yn credu, â chydwybod dda—wel, gall edrych i lawr—os yw e’n credu, â chydwybod da, bod y bobl hyn yn ymfudwyr economaidd mewn rhyw ffordd, mae angen iddo edrych yn ofalus iawn, iawn arno ef ei hun.