Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 20 Medi 2016.
Wel, ym mis Tachwedd 2015, fe wnaethom ni sefydlu tasglu ffoaduriaid o Syria. Roeddem ni ar flaen y gad o bell ffordd o ran Llywodraethau eraill. Roeddem ni’n gwbl eglur y byddai Cymru yn cymryd cyfran deg o ffoaduriaid. Mae'r un peth yn wir am blant, wrth gwrs. Mae'r ffaith fod gan Lywodraeth y DU dri chynllun adsefydlu plant erbyn hyn yn gam i’r cyfeiriad cywir sydd i'w groesawu, ac rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod Cymru yn chwarae ei rhan lawn o ran croesawu plant, sy’n aml iawn wedi colli eu rhieni, plant sydd wedi gweld rhyfeloedd, plant sydd wedi gweld pethau o'u blaenau na fyddem fyth eisiau i unrhyw un—plant nac oedolion—eu gweld, ac rydym ni’n sefyll yn barod i helpu’r plant hynny.