Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 20 Medi 2016.
Rwy’n credu bod disodli mewnforion yn debygol o fod hyd yn oed yn fwy hanfodol, yn economaidd, i ni o ganlyniad o bosibl i'r dull trwsgl a dryslyd o ymdrin â mynediad at y farchnad sengl yr ydym ni’n ei weld gan y Llywodraeth hon ar hyn o bryd, ond a all y Prif Weinidog ddweud wrthym ni a yw’r math o gyngor a chyfarwyddyd a roddir i awdurdodau lleol ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys cefnogaeth gadarnhaol i bethau fel system brynu ddeinamig, sy'n galluogi cwmnïau, cwmnïau newydd, i gyflenwi yn rhan o gontract, hyd yn oed ar ôl i sefydliad arall gael ei benodi, ac oddi wrth y gorddefnydd o gontractau fframwaith a bwndelu contractau, sy'n andwyol, mewn gwirionedd, i gynnig cyfleoedd i fentrau bach a chanolig eu maint yn arbennig?