<p>Caffael Gwasanaethau Cyhoeddus</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 20 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP 1:57, 20 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Yn dilyn Brexit, byddwn yn gallu pennu ein rheolau caffael cyhoeddus ein hunain i ddiwallu ein hanghenion economaidd a chaffael ein hunain, yn hytrach nag anghenion busnesau mawr mewn gwledydd eraill. Pa fesurau ydych chi’n mynd i’w rhoi ar waith i roi blaenoriaeth i fusnesau Cymru wrth ddyfarnu contractau caffael cyhoeddus, a pha newidiadau ydych chi'n mynd i'w gwneud i reolau caffael cyhoeddus i'w gwneud yn haws i fusnesau bach gystadlu am gontractau o'r fath?