Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 20 Medi 2016.
Bydd cynllun cyfathrebu, fel bob amser. Fe wnaethom ni hyn, wrth gwrs, gyda'r Ddeddf trawsblannu dynol—a gwelsom effeithiau hynny—lle’r oedd y mwyafrif helaeth o bobl yn ymwybodol o'r ddeddfwriaeth ac yn ymwybodol o'i chynnwys. Bydd Awdurdod Refeniw Cymru yn hynod bwysig, wrth gwrs, o ran gallu casglu treth sy'n deg, yn gadarn ac, yn anad dim, y gellir ei chasglu ac na ellir ei hosgoi yn hawdd iawn. Rydym ni’n deall yr angen i wneud hynny. Felly, nid wyf yn ei chael yn anodd o gwbl credu y bydd gennym ni ymgeiswyr o ansawdd digonol i ddewis cadeirydd yr awdurdod o’u plith.