1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 20 Medi 2016.
7. A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatganoli trethi? OAQ(5)0150(FM)
Gwnaf. Rydym ar y trywydd iawn i gyflawni trethi datganoledig Cymru, a threfniadau casglu a rheoli. O fis Ebrill 2018, byddwn yn gallu gwneud hynny, ond bydd hynny'n dibynnu, wrth gwrs, ar gytuno fframwaith cyllidol i Gymru, sy'n eithriadol o bwysig.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Fel y gwyddoch, rwyf wedi cefnogi'r fframwaith cyllidol. Roeddwn i’n falch o fod yn bresennol yng nghyfarfod yr Ysgrifennydd cyllid gyda phrif weithredwr newydd Awdurdod Refeniw Cymru ddydd Iau diwethaf i drafod y broses o benodi cadeirydd i'r sefydliad newydd. Mae hon yn amlwg yn mynd i fod yn un o'r swyddi newydd pwysicaf yng Nghymru yn y cyfnod diweddar. Bydd datganoli treth yn llwyddo, Brif Weinidog, dim ond os bydd gan y cyhoedd ffydd ynddo. Yn amlwg, ar hyn o bryd, ychydig iawn o bobl sydd hyd yn oed yn ymwybodol ei fod yn digwydd. Sut ydych chi’n sicrhau ein bod ni’n cael ymgeiswyr o’r ansawdd cywir a’r safon gywir i ymgeisio am y swydd newydd hon yn Awdurdod Refeniw Cymru? Sut mae eich Llywodraeth Cymru yn hysbysebu’r holl ddatganoli trethi fel bod y cyhoedd yn gwbl ymwybodol, pan fydd yn dechrau digwydd yn 2018, o'r hyn sy'n digwydd gyda'u biliau treth?
Bydd cynllun cyfathrebu, fel bob amser. Fe wnaethom ni hyn, wrth gwrs, gyda'r Ddeddf trawsblannu dynol—a gwelsom effeithiau hynny—lle’r oedd y mwyafrif helaeth o bobl yn ymwybodol o'r ddeddfwriaeth ac yn ymwybodol o'i chynnwys. Bydd Awdurdod Refeniw Cymru yn hynod bwysig, wrth gwrs, o ran gallu casglu treth sy'n deg, yn gadarn ac, yn anad dim, y gellir ei chasglu ac na ellir ei hosgoi yn hawdd iawn. Rydym ni’n deall yr angen i wneud hynny. Felly, nid wyf yn ei chael yn anodd o gwbl credu y bydd gennym ni ymgeiswyr o ansawdd digonol i ddewis cadeirydd yr awdurdod o’u plith.
Brif Weinidog, a ydych chi’n cytuno â mi ei bod yn hollbwysig, wrth ddatganoli unrhyw drethi, i Gymru beidio â dioddef unrhyw niwed o ddatganoli’r trethi hynny? A wnewch chi bwyso am gymrodeddu annibynnol i ddatrys anghydfodau gyda'r Trysorlys? Nid wyf yn dymuno swnio'n besimistaidd, ond mae gennyf deimlad y bydd gennym ni ambell i achos o anghydfod gyda'r Trysorlys. Ac os bydd y Trysorlys yn gweithredu fel barnwr a rheithgor yn yr achosion hynny, rydym ni’n debygol o fod ar ein colled. Felly, os bydd unrhyw anghydfod, mae angen rhyw fath o gymrodeddu teg arnom.
Rwy’n cytuno’n llwyr. Un peth y gallaf ei ddweud wrtho yw bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn gwybod ac yn deall y bydd unrhyw gefnogaeth i Fil Cymru yn dibynnu ar gael fframwaith cyllidol ar waith. Nid oes diben cael hynny ac yna cael y fframwaith cyllidol. Rhoddwyd y cwrteisi hwnnw i’r Alban. Nid oes unrhyw reswm pam na ddylai Cymru gael yr un lefel o gwrteisi. Ac mae’n iawn, wrth gwrs: ar hyn o bryd, mae'r broses o ddatrys anghydfod o fewn Cydbwyllgor y Gweinidogion yn golygu, os oes anghydfod gyda'r Trysorlys, yna mae’r anghydfod yn parhau tan iddo gael ei benderfynu gan y Trysorlys yn y pen draw. Felly, nid oes unrhyw drydydd parti yn rhan o’r broses. Cyflwynais ddadleuon ar y pryd y dylid cael panel annibynnol o gymrodeddwyr. Nid yw hynny'n rhywbeth yr oedd Llywodraeth y DU ar y pryd yn fodlon ei dderbyn. Ceir modelau mewn mannau eraill, wrth gwrs. Yn Awstralia, ceir comisiwn grantiau sy'n gweithredu’n annibynnol er mwyn cymrodeddu rhwng gwladwriaethau a rhwng gwladwriaethau a’r Llywodraeth ffederal. Nid oes unrhyw reswm pam na all hynny ddigwydd yma. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod y Trysorlys yn deall na all fod yn farnwr a rheithgor ar bopeth.
Brif Weinidog, mae gen i ateb i chi o ran cyfathrebu’r pwerau codi trethi yr ydych chi’n mynd i fod yn eu cael. Nawr, nid oes gan y mwyafrif llethol o bobl, os ydym ni’n onest, ddim syniad bod hyn ar ei ffordd tuag atyn nhw. Mae ffordd i chi roi gwybod i bobl beth sy'n digwydd mewn gwirionedd, a hefyd i chi allu cael y cyfathrebu—ddwy ffordd—gyda'r cyhoedd, sef rhoi refferendwm iddyn nhw. Peidiwch â rhoi’r bai ar gostau a phethau felly, y gwn eich bod yn ei wneud fel arfer. A ydych chi’n ymddiried ym mhobl Cymru, ac a wnewch chi gael y drafodaeth honno gyda nhw, ac a wnewch chi ganiatáu iddyn nhw leisio eu barn? [Torri ar draws.] Mae'n athrylith, diolch.
Rwy’n ddiolchgar i'r Aelod am ei gyngor. Ni fydd yn syndod iddo nad wyf yn derbyn ei gyngor y byddai refferendwm a fyddai'n costio £4 miliwn o gymorth arbennig, o gofio’r ffaith bod pleidiau gwleidyddol wedi esbonio eu safbwyntiau i bobl Cymru yn eu maniffestos yn yr etholiad ym mis Mai. Gwnaeth pobl Cymru benderfyniad o ran yr hyn yr oedden nhw eisiau ei wneud. Mae hwn yn fater i wneud penderfynu priodol arno mewn etholiad, a mynegodd pobl Cymru eu barn.