Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 20 Medi 2016.
Brif Weinidog, mae gen i ateb i chi o ran cyfathrebu’r pwerau codi trethi yr ydych chi’n mynd i fod yn eu cael. Nawr, nid oes gan y mwyafrif llethol o bobl, os ydym ni’n onest, ddim syniad bod hyn ar ei ffordd tuag atyn nhw. Mae ffordd i chi roi gwybod i bobl beth sy'n digwydd mewn gwirionedd, a hefyd i chi allu cael y cyfathrebu—ddwy ffordd—gyda'r cyhoedd, sef rhoi refferendwm iddyn nhw. Peidiwch â rhoi’r bai ar gostau a phethau felly, y gwn eich bod yn ei wneud fel arfer. A ydych chi’n ymddiried ym mhobl Cymru, ac a wnewch chi gael y drafodaeth honno gyda nhw, ac a wnewch chi ganiatáu iddyn nhw leisio eu barn? [Torri ar draws.] Mae'n athrylith, diolch.