Part of the debate – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 20 Medi 2016.
A gaf i godi dau fater gyda chi, a gofyn, yn gyntaf, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog dros seilwaith, yr economi a thrafnidiaeth ynglŷn â chau’r A48 tua’r dwyrain y tu allan i Gaerfyrddin? Rwyf ar ddeall bod y ffordd eisoes wedi’i chau ac y bydd y gwaith yn parhau am chwe wythnos, rhwng Caerfyrddin a Nant-y-caws. Rwyf eisoes wedi cael adborth am oedi, oedi difrifol, yn ardal Caerfyrddin. Ac, wrth gwrs, nid mater lleol yn unig yw hwn; dyma’r prif gyswllt rhwng Cymru ac Iwerddon a rhwng Cymru a gweddill yr Undeb Ewropeaidd, a gaiff ei ddefnyddio yn helaeth gan gerbydau nwyddau, fel y gŵyr unrhyw un sydd wedi teithio ar y ffordd. Mae dargyfeirio’r holl draffig ar hyd yr hen ffordd, fel petai, drwy Langynnwr, eisoes yn achosi pryderon ac, yn bwysicach yn y cyd-destun hwnnw, yn achosi oedi hir.
Hoffwn i, yn benodol, gael datganiad ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud ei gorau i liniaru’r oedi hwn, ac ar y berthynas sydd gennym â chontractwyr pan—rwy’n deall bod y gwaith yn hanfodol—mae cyfnodau mor hir yn cael eu caniatáu ar gyfer gwneud y gwaith, ac a ydym yn rhoi digon o bwysau a gofynion ar rai cwmnïau i gyflawni’r gwaith hwn cyn gynted ag y bo modd, yn hytrach na llusgo’u traed. Bydd yn cael effaith wael yn economaidd ar y gorllewin os na chaiff hyn ei ddatrys yn fuan. Felly, rwy’n gobeithio y gallwn ni o leiaf gael datganiad ysgrifenedig ynghylch hynny yn fuan.
Yr ail fater yr hoffwn i ofyn yn ei gylch yw hwn: beth yw'r weithdrefn–rwy’n credu y gall y Prif Weinidog helpu yn hyn o beth, trwy ddatganiad neu eglurhad–o ran datganiadau gan Weinidogion y Cabinet ar bolisi Llywodraethol heb fod yn y Siambr hon? Nodaf fod yr Ysgrifennydd dros addysg wedi mynd i gynhadledd ei phlaid, sy’n wahanol i gynhadledd plaid y Llywodraeth, wrth gwrs, a gwneud sawl cyhoeddiad am addysg–dyblu’r grant amddifadedd disgyblion, gwaharddiad ar ysgolion gramadeg yng Nghymru–ac eto, wrth imi edrych ar y rhaglen lywodraethu a gyhoeddwyd heddiw, ni welaf sôn am yr ymrwymiadau hynny o gwbl. Mae rhai sylwadau amwys ynglŷn â rhai ohonynt, ond nid oes sôn am yr ymrwymiadau hyn, felly rwy'n gofyn y cwestiwn, ac rwy'n siŵr bod llawer o bobl yn gwneud yr un fath: a yw’r Gweinidog Cabinet sy’n mynd i gynhadledd ei phlaid ac yn gwneud datganiad, yn cyflwyno ymrwymiad polisi gan y Cabinet a Llywodraeth Cymru, neu ddim ond yn mynegi gobeithion y Democratiaid Rhyddfrydol, yr ydym wedi cael llawer ohonynt yn wir dros y diwrnodau diwethaf? Byddai'n dda cael gwybod gan y Prif Weinidog a yw'r rhain, mewn gwirionedd, yn bolisïau sydd wedi eu cymeradwyo gan y Llywodraeth a’r Cabinet, ac a oedd yr Ysgrifennydd Parhaol yn gwybod bod yr Ysgrifennydd dros addysg yn mynd i wneud ymrwymiadau o'r fath ar ran Llywodraeth Cymru yn gyhoeddus.