– Senedd Cymru am 2:21 pm ar 20 Medi 2016.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes ac rwy’n galw ar Jane Hutt.
Lywydd, rwyf wedi ychwanegu un peth at yr agenda heddiw. Yn fuan, bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad am y rhaglen lywodraethu, 'Symud Cymru Ymlaen 2016-2021'. Rwyf hefyd wedi diwygio teitlau’r datganiadau llafar heddiw gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau i'w hateb gan Gomisiwn y Cynulliad yfory, felly mae’r amserau wedi eu haddasu’n briodol. Ac mae’r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir yng nghyhoeddiad y datganiad busnes sydd ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
A gaf i godi dau fater gyda chi, a gofyn, yn gyntaf, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog dros seilwaith, yr economi a thrafnidiaeth ynglŷn â chau’r A48 tua’r dwyrain y tu allan i Gaerfyrddin? Rwyf ar ddeall bod y ffordd eisoes wedi’i chau ac y bydd y gwaith yn parhau am chwe wythnos, rhwng Caerfyrddin a Nant-y-caws. Rwyf eisoes wedi cael adborth am oedi, oedi difrifol, yn ardal Caerfyrddin. Ac, wrth gwrs, nid mater lleol yn unig yw hwn; dyma’r prif gyswllt rhwng Cymru ac Iwerddon a rhwng Cymru a gweddill yr Undeb Ewropeaidd, a gaiff ei ddefnyddio yn helaeth gan gerbydau nwyddau, fel y gŵyr unrhyw un sydd wedi teithio ar y ffordd. Mae dargyfeirio’r holl draffig ar hyd yr hen ffordd, fel petai, drwy Langynnwr, eisoes yn achosi pryderon ac, yn bwysicach yn y cyd-destun hwnnw, yn achosi oedi hir.
Hoffwn i, yn benodol, gael datganiad ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud ei gorau i liniaru’r oedi hwn, ac ar y berthynas sydd gennym â chontractwyr pan—rwy’n deall bod y gwaith yn hanfodol—mae cyfnodau mor hir yn cael eu caniatáu ar gyfer gwneud y gwaith, ac a ydym yn rhoi digon o bwysau a gofynion ar rai cwmnïau i gyflawni’r gwaith hwn cyn gynted ag y bo modd, yn hytrach na llusgo’u traed. Bydd yn cael effaith wael yn economaidd ar y gorllewin os na chaiff hyn ei ddatrys yn fuan. Felly, rwy’n gobeithio y gallwn ni o leiaf gael datganiad ysgrifenedig ynghylch hynny yn fuan.
Yr ail fater yr hoffwn i ofyn yn ei gylch yw hwn: beth yw'r weithdrefn–rwy’n credu y gall y Prif Weinidog helpu yn hyn o beth, trwy ddatganiad neu eglurhad–o ran datganiadau gan Weinidogion y Cabinet ar bolisi Llywodraethol heb fod yn y Siambr hon? Nodaf fod yr Ysgrifennydd dros addysg wedi mynd i gynhadledd ei phlaid, sy’n wahanol i gynhadledd plaid y Llywodraeth, wrth gwrs, a gwneud sawl cyhoeddiad am addysg–dyblu’r grant amddifadedd disgyblion, gwaharddiad ar ysgolion gramadeg yng Nghymru–ac eto, wrth imi edrych ar y rhaglen lywodraethu a gyhoeddwyd heddiw, ni welaf sôn am yr ymrwymiadau hynny o gwbl. Mae rhai sylwadau amwys ynglŷn â rhai ohonynt, ond nid oes sôn am yr ymrwymiadau hyn, felly rwy'n gofyn y cwestiwn, ac rwy'n siŵr bod llawer o bobl yn gwneud yr un fath: a yw’r Gweinidog Cabinet sy’n mynd i gynhadledd ei phlaid ac yn gwneud datganiad, yn cyflwyno ymrwymiad polisi gan y Cabinet a Llywodraeth Cymru, neu ddim ond yn mynegi gobeithion y Democratiaid Rhyddfrydol, yr ydym wedi cael llawer ohonynt yn wir dros y diwrnodau diwethaf? Byddai'n dda cael gwybod gan y Prif Weinidog a yw'r rhain, mewn gwirionedd, yn bolisïau sydd wedi eu cymeradwyo gan y Llywodraeth a’r Cabinet, ac a oedd yr Ysgrifennydd Parhaol yn gwybod bod yr Ysgrifennydd dros addysg yn mynd i wneud ymrwymiadau o'r fath ar ran Llywodraeth Cymru yn gyhoeddus.
Diolch yn fawr, Simon Thomas, am eich cwestiynau. Mae’r cwestiwn cyntaf yn bwynt pwysig iawn. Wrth gwrs, byddwch chi’n ymwybodol, rwy'n siŵr, fod pibell nwy yn gollwng a bod angen gwneud gwaith hanfodol arni. Wrth gwrs, o ran ymdrin â hynny, a'r effaith ar fusnesau, y cyhoedd, a’r daith i'r ysgol a’r gwaith, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, seilwaith a sgiliau wedi rhoi ystyriaeth i’r holl faterion hynny. Byddwn yn amlwg yn gwneud popeth o fewn ein gallu i liniaru effaith hynny, o ran gwyriadau ac ymdrin â’r sefyllfa, a byddwn yn sicr yn adrodd yn ôl, ac yn ateb cwestiynau, rwy'n siŵr, ar yr effaith wrth i'r gwaith hwn fynd yn ei flaen.
Mae eich ail bwynt yn bwynt diddorol, oherwydd, wrth gwrs, rwy’n cofio’n dda yr amser pan oeddem mewn clymblaid gyda'n gilydd, pan gafodd yr un fath o ddatganiadau a threfniadau eu gwneud. Ond byddwn i hefyd yn dweud wrth yr Aelod, wrth gwrs, ein bod ni, fel Llywodraeth Cymru, wedi bod yn glir iawn, fel yr oeddem, ac yn wir, chithau hefyd rwy’n credu, yn y pedwerydd Cynulliad, am ein cefnogaeth, nid yn unig i’r grant amddifadedd disgyblion, ond hefyd i’r blynyddoedd cynnar.
A gaf i ofyn am ddatganiad ar gasglu data cyfrifiad ar gyfer cyfrifiad 2021? Pa fewnbwn sydd gan naill ai'r Cynulliad Cenedlaethol neu Lywodraeth Cymru i ffiniau ardaloedd cynnyrch ehangach haen is? Caiff y data hyn, fel y gwyddoch, eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru i dargedu rhaglenni gwrthdlodi. Gall y gymysgedd a grëir arwain–fel sydd wedi digwydd yn fy etholaeth i–at sefyllfa lle mae rhai o'r ardaloedd tlotaf ar eu colled oherwydd eu bod wedi eu huno, rai ohonynt, ag ardaloedd cefnog, a’r data felly yn rhoi cyfartaledd eithaf uchel, er bod yna ardaloedd sy’n dioddef amddifadedd eithafol. Beth y gellir ei wneud i geisio trefnu’r cyfrifiad i greu ardaloedd casglu data mwy unffurf er mwyn ceisio atal hynny rhag digwydd?
Wel, mae Mike Hedges yn codi pwynt pwysig, a gwn y bydd yn ymwybodol mai cyfrifoldeb y Swyddfa Ystadegau Gwladol yw dylunio’r ffiniau ardaloedd cynnyrch ehangach haen is hynny. Mae'n rhan o'i gwaith o reoli cyfrifiad Cymru a Lloegr, ond rydym ni’n cyfrannu at lywodraethu’r cyfrifiad hwnnw. Mae gennym berthynas waith agos, wrth gwrs, â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, ac rydym yn ymgynghori’n rheolaidd â nhw. Mae angen inni edrych ar sut i reoli'r effaith pan fydd newid penodol yn y boblogaeth sy'n effeithio ar faint yr ardaloedd cynnyrch ehangach haen is hynny. Ond, wrth gwrs, fel y dywedodd Mike Hedges, mae hyn yn rhywbeth lle gellir tynnu sylw ato hefyd trwy ymgynghori gan Aelodau'r Cynulliad.
Diolch. A gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, yn gyntaf ar gymhwyso lwfans tai lleol ar rent cymdeithasol ar gyfer darparwyr tai â chymorth? Ddydd Iau diwethaf, cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Waith a Phensiynau fod Llywodraeth y DU yn gohirio cymhwysiad cyfraddau lwfans tai lleol ar rent cymdeithasol ar gyfer tai â chymorth tan 2019-20. Byddai wedyn yn cyflwyno model cyllido newydd lle byddai costau uwchben lefel y cyfraddau lwfans tai lleol yn Lloegr yn cael cyllid wedi’i ddatganoli i lywodraeth leol i’w ddyrannu’n lleol. Ond cyhoeddwyd y byddai swm cyfatebol yn cael ei ddarparu i Gymru a'r Alban, a phenderfyniad y gweinyddiaethau hynny, meddai, fyddai sut orau i ddyrannu’r cyllid. Ar ôl siarad yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol darparwr Cefnogi Pobl mawr yn y gogledd ddydd Gwener diwethaf lle holwyd am hyn—ac, yn amlwg iawn, mynegwyd pryder y dylai Llywodraeth Cymru ymgysylltu ac egluro ei safbwynt ar hyn dros y misoedd nesaf—byddwn i’n ddiolchgar pe gallai'r Cynulliad gael datganiad yn esbonio sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymateb i hynny.
Yn ail ac yn olaf, rwy'n ddiolchgar am ddatganiad ar ddarparu nyrsys i blant â chyflyrau sy'n byrhau bywyd. Mae'r elusen Together for Short Lives wedi lansio ymgyrch newydd, You Can Be That Nurse, i annog rhagor o nyrsys i weithio gyda phlant â chyflyrau sy'n byrhau bywyd. Maent yn cyfeirio at dystiolaeth sy'n dangos bod prinder nyrsys cymwysedig yn darparu gofal lliniarol i blant yn y sector gwirfoddol, gan gynnwys hosbisau plant. Mae hyn yn cael effaith negyddol ar blant sydd â chyflyrau sy'n byrhau bywyd, nid yn unig ledled y DU, ond yng Nghymru hefyd. Maent yn dweud eu bod, fel rhan o'r ymgyrch, yn gofyn i Lywodraeth Cymru a chynllunwyr y gweithlu gofal iechyd i gymryd camau i ddod â'r gyfradd gyfartalog o swyddi gwag nyrsio mewn sefydliadau gofal lliniarol i blant yn y sector gwirfoddol i lai na 10 y cant ac yn nes at y gyfradd swyddi gwag am nyrsys GIG yn y DU. Unwaith eto, mae galw ar Lywodraeth Cymru, sy'n haeddu ymateb gan Lywodraeth Cymru, a byddem yn croesawu datganiad priodol.
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn gwbl ymwybodol o'r materion sy'n ymwneud â chymhwyso lwfans tai lleol ac mae’n cymryd rhan mewn trafodaethau, ac mae'n ddefnyddiol cael adborth, wrth gwrs, ar yr effeithiau hynny ar lefel ranbarthol i’r bobl gysylltiedig, ond mae’n amlwg yn ymateb i'r rheini. O ran eich ail bwynt, unwaith eto, mae'n gyfle i dynnu sylw at Together for Short Lives, yr ymgyrch y gwnaethoch chi sôn amdani. Wrth gwrs, mae nyrsys yn hanfodol i'n GIG, ac rydym ni wedi cynyddu nifer y nyrsys yn y gwasanaeth. Ond hefyd, mae'n ymwneud â chymysgedd effeithiol o sgiliau a gwneud yn siŵr bod gennym y nyrsys profiadol iawn hynny er mwyn sicrhau y gallwn ddiwallu’r anghenion y gwnaethoch chi eu disgrifio.
Arweinydd y tŷ, roedd hi’n dda ymuno â chi a llawer o ACau Llafur eraill y tu allan i'r Senedd yr wythnos ddiwethaf i gefnogi menywod o bob rhan o Gymru sy'n protestio yn erbyn y newidiadau annheg i drefniadau pensiwn menywod sydd, yn syml, wedi eu gwthio arnom gan Lywodraeth y DU. A gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ei hasesiad o’r effaith y mae’r newidiadau hyn wedi eu cael, oherwydd bydd gorfodi menywod i weithio'n hirach yn sicr yn cael ôl-effaith ddifrifol ar ein polisïau economaidd a chyflogaeth yma yng Nghymru?
Hoffwn i ddiolch i Vikki Howells am sicrhau bod yna bresenoldeb cryf iawn, yn sicr gan gydweithwyr yma. Roedd Huw Irranca-Davies, rwy’n credu, ac Aelodau Cynulliad eraill o’r blaid Lafur yno, yn ogystal ag ASau, gan nad yw hyn wedi ei ddatganoli. Roedd yn ddiwrnod cenedlaethol o weithredu ac rwy'n falch iawn o waith yr ymgyrch. Ac, wrth gwrs, yn y pedwerydd Cynulliad, ysgrifennodd y cyn- Weinidog, Lesley Griffiths, at y Gweinidog Gwladol dros Bensiynau ym mis Chwefror eleni yn mynegi pryderon Llywodraeth Cymru am effaith Deddfau Pensiynau 1995 a 2011, ac yn galw am drefniadau pontio gwell i’r menywod hynny y mae’r newidiadau yn effeithio arnynt. Wrth gwrs, tynnwyd sylw at hyn unwaith eto gan y diwrnod cenedlaethol hwnnw o weithredu, a byddwn ni’n parhau i godi’r pryderon hynny.