Part of the debate – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 20 Medi 2016.
Arweinydd y tŷ, roedd hi’n dda ymuno â chi a llawer o ACau Llafur eraill y tu allan i'r Senedd yr wythnos ddiwethaf i gefnogi menywod o bob rhan o Gymru sy'n protestio yn erbyn y newidiadau annheg i drefniadau pensiwn menywod sydd, yn syml, wedi eu gwthio arnom gan Lywodraeth y DU. A gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ei hasesiad o’r effaith y mae’r newidiadau hyn wedi eu cael, oherwydd bydd gorfodi menywod i weithio'n hirach yn sicr yn cael ôl-effaith ddifrifol ar ein polisïau economaidd a chyflogaeth yma yng Nghymru?