Part of the debate – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 20 Medi 2016.
Diolch i chi am eich datganiad, Brif Weinidog. Gwnaethoch chi sôn yn eich datganiad am ymagwedd 'yr hyn sy'n gweithio' a chyflenwi arloesol. Cyfeirir yn anuniongyrchol yn adran heriau a chyfleoedd a rennir eich pamffled heddiw at y ffaith nad oes gan y Llywodraeth fonopoli ar syniadau da nac ar gyflenwi. Ym mha feysydd portffolio yr ydych chi'n rhagweld mwy o gyd-gynhyrchu, mwy o leoliaeth a llai o orchymyn a rheolaeth gan lywodraeth leol a’r Llywodraeth ganolog?