4. 4. Datganiad: Y Rhaglen Newid Addysg Gychwynnol i Athrawon — Hynt y Rhaglen a'r Wybodaeth Ddiweddaraf

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 20 Medi 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 3:36, 20 Medi 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Heddiw, hoffwn nodi fy mlaenoriaethau ar gyfer rhaglen newid addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru.

Dylai pob rhiant, Lywydd, fod yn hyderus bod eu plentyn yn mynd i ysgol sy'n ei helpu i dyfu yn ddinesydd abl, iach a chyflawn. Mae’n rhaid cefnogi athrawon i fod y gorau y gallant fod, gan godi safon y proffesiwn yn ei gyfanrwydd. Mae athrawon yn rhannu cenhadaeth unigol, broffesiynol a chenedlaethol i helpu ein plant i lwyddo.

Rwy’n credu bod adroddiad yr Athro John Furlong, 'Addysgu Athrawon Yfory', yn hanfodol ar gyfer diwygio ein cyrsiau addysg i athrawon a datblygu'r sgiliau sydd eu heisiau a’u hangen ar athrawon. Er mwyn i’r proffesiwn addysgu gyfrannu’n briodol at godi safonau addysg yn ein hysgolion, fel y nodir yn Dyfodol Llwyddiannus, mae’n rhaid i’n haddysg gychwynnol i athrawon gynnig y sgiliau, yr wybodaeth a'r awydd i athrawon y dyfodol arwain y newid sydd ei angen. Yn 'Addysgu Athrawon Yfory' argymhellwyd datblygu dull gwahanol iawn o achredu rhaglenni addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru, ac argymhellodd sefydlu bwrdd achredu addysg i athrawon o fewn Cyngor Gweithlu Addysg Cymru.