Part of the debate – Senedd Cymru am 3:42 pm ar 20 Medi 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad y prynhawn yma. Mae yna lawer ynddo fe y byddwn i’n hapus iawn i’w gefnogi. Wrth gwrs, mae Plaid Cymru wedi croesawu adroddiad Furlong a’i argymhellion, ac mi oedd maniffesto Plaid Cymru ar gyfer yr etholiadau diweddar yn amlinellu rhai o agweddau penodol yr hyn rŷm ni’n credu sydd ei angen i gryfhau addysg gychwynnol i athrawon a datblygu proffesiynol parhaus. Rwy’n cymryd nad ydych chi’n gwyro o agwedd y Llywodraeth flaenorol a dderbyniodd holl argymhellion Furlong hefyd.
Mi oedd eich rhagflaenydd chi hefyd, wrth gwrs, yn dweud bod angen cyflymu newidiadau i addysg gychwynnol i athrawon, ac mae’r ymgynghoriad yr ydych chi’n cyfeirio ato fe, a fydd yn cychwyn yr wythnos nesaf yn un, rwy’n deall, y mae’r sector wedi bod yn disgwyl amdano fe ers mis Ionawr. Felly, nid wyf yn siŵr a yw hynny’n adlewyrchu’r ‘progress at pace’ rŷch chi’n sôn amdano fe yn eich datganiad. Ac wrth gwrs rŷch chi’n dweud:
‘change can not and must not wait’.
A allwch chi, felly, ehangu ychydig ar eich amserlen weithredu chi fel Gweinidog Cabinet? Rŷch chi wedi cyfeirio at 2018 fel dyddiad allweddol, ond byddwn i’n licio clywed, efallai, beth yw rhai o’r cerrig milltir o safbwynt y broses ymgynghori ac yn y blaen rŷch chi wedi cyfeirio ati. Mi fyddai hynny yn fuddiol iawn.
Nawr, mae’r ymgynghoriad arfaethedig yn cyfeirio at ddatblygu un agwedd benodol o waith y Cyngor Gweithlu Addysg yng Nghymru. Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, wedi galw am ddiwygio ehangach y cyngor hwnnw yn ein maniffesto ni i un sydd yn gorff proffesiynol, hunanreoleiddiol sy’n gyfrifol am safonau dysgu a datblygu proffesiynol parhaus. Rŷch chi’n dweud y byddech chi’n disgwyl i bartneriaethau rhwng ysgolion a phrifysgolion aeddfedu. Rŷch chi’n disgwyl yn gynnar yn y flwyddyn newydd iddyn nhw ddatgan eu bwriad i gael eu hachredu â rhaglenni newydd, felly a allwch chi ddweud wrthym ni beth fyddwch chi’n ei wneud os na fyddan nhw? Rwy’n gwybod bod eich rhagflaenydd chi wedi bod yn ddiamynedd, efallai, ynglŷn â symud yn hynny o beth, a byddwn i’n licio gwybod, petai hynny ddim yn digwydd, pa gamau y byddwch chi fel Llywodraeth yn eu cymryd.
Rŷm ni i gyd, wrth gwrs, am i ddysgu fod yn broffesiwn dewis cyntaf—byddai pawb yn cytuno, rwy’n siŵr, fan hyn â hynny. Ond mae’n rhaid i mi ofyn i’m hunan y dyddiau yma—pwy, mewn gwirionedd, sydd yn hyrwyddo dysgu fel gyrfa? Rŷm ni’n gwybod bod nifer yr athrawon cofrestredig yn disgyn o rai cannoedd bob blwyddyn. Rŷm yn hyfforddi tua hanner yr athrawon yn flynyddol ag yr oeddem yn eu hyfforddi yn 2006. Felly, a ydych chi’n cytuno â mi fod yna job o waith sydd angen ei wneud sydd ddim yn digwydd yn ddigon effeithiol ar hyn o bryd, o safbwynt hyrwyddo gyrfa mewn dysgu—nid jest o ran niferoedd, wrth gwrs, ond o ran denu ymgeiswyr o’r radd flaenaf? Yn sicr, mae hynny’n rhywbeth yr oedd Furlong yn cyfeirio ato fe, ac mae’r OECD, Estyn ac eraill, wrth gwrs, wedi mynegi gofid ynglŷn â hynny.
Roedd Plaid Cymru, yn ein maniffesto ni, yn cynnig premiwm o 10 y cant ar gyflog athrawon a fyddai’n cyrraedd lefel penodol o ddatblygu proffesiynol. Yn sicr, mi fyddai hynny’n cyfrannu at godi safonau, yn fy marn i, ond hefyd yn arf i ddenu—ac i gadw—ymgeiswyr o’r radd uchaf i ddod i ddysgu. A fyddech chi’n barod i ystyried hynny, achos rwy’n nodi, yn y rhaglen llywodraethu sydd wedi ei chyhoeddi heddiw, fod y Llywodraeth eisiau cydnabod, hyrwyddo ac annog rhagoriaeth ym maes addysgu? Os ydych am gydnabod hynny, efallai bod modd gwneud hynny drwy gyfrwng premiwm o ryw fath. Byddwn i’n ddiolchgar petaech chi’n ystyried hynny.
Mae lleihau biwrocratiaeth hefyd yn bwysig, yn fy marn i, oherwydd dyna un o’r agweddau mwyaf negyddol pan mae’n dod i geisio denu pobl i’r sector. Gyda hynny mewn golwg, wrth gwrs, o safbwynt denu ymgeiswyr o’r radd uchaf, efallai y gallech chi ddweud wrthym ni pa rôl rydych chi’n gweld ‘Teach First’ yn ei chwarae, a’r rhaglen athrawon graddedig, hefyd, oherwydd mae ganddynt rôl yn y dirwedd hyfforddi bresennol, ac yn cael arian gan y Llywodraeth hefyd. A ydy hynny am barhau yn yr hirdymor? Ble mae’r uchelgais cyfatebol, o safbwynt y Llywodraeth, mewn perthynas â staff dysgu cynorthwyol, oherwydd mae’n rhaid i ni gryfhau’r ansawdd ar draws y proffesiwn, ym mhob agwedd wrth gwrs?
Rydych chi hefyd wedi sôn yn flaenorol—ac mi wnaf i orffen gyda hyn—am ddatblygu strategaeth gweithlu ac arweinyddiaeth. Gwnaethoch ddatganiad cyn yr haf i’r perwyl hwnnw. Roeddech chi’n dweud bryd hynny y byddai hynny’n cryfhau’r ffocws ar feysydd megis datblygu safonau dysgu proffesiynol newydd a chychwyn y symudiad at broffesiwn dysgu gradd Meistr, ac yn y blaen. Sut bydd yr hyn yr ydych yn ei gyhoeddi heddiw a’r strategaeth honno yn dod at ei gilydd? Gallaf glywed rhai, efallai, yn dweud nawr eich bod chi’n gofyn cwestiynau i’r sector nawr yn eich datganiad, ac yn yr ymgynghoriad sydd i ddod, heb, efallai, inni weld y weledigaeth a’r strategaeth ehangach hynny sydd eto i gael eu hamlinellu.