Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 20 Medi 2016.
Diolch, Darren, am eich pwyntiau. Os caf ddechrau drwy sôn am ddatblygiad proffesiynol parhaus, yn amlwg pwyslais y datganiad heddiw yw addysg gychwynnol i athrawon, ond rydych yn hollol gywir na allwn byth anghofio na thynnu ein sylw oddi ar yr angen i gefnogi athrawon sydd eisoes yn yr ystafell ddosbarth, a byddwch yn ymwybodol bod y pasbortau dysgu wedi’u lansio y llynedd. Rydym yn ceisio gweld a ydynt wedi bod yn effeithiol yn ystod eu blwyddyn gyntaf ar waith a beth y gallwn ei ddysgu o hynny. Rydym yn gweithio gydag ysgolion arloesol y fargen newydd i edrych ar ba fath o ddatblygiad proffesiynol parhaus sy’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Wrth siarad ag athrawon, fel yr wyf wedi’i wneud ers dechrau yn y swydd hon, mae’n ymddangos mai’r ffordd fwyaf effeithiol yw cydweithio rhwng athrawon, yn enwedig os gellir meithrin hynny o fewn rhwydwaith o ysgolion lleol. Mae rhai o'r hen rwystrau o ran diffyg ymddiriedaeth broffesiynol i beidio â bod eisiau rhannu gwendidau a chryfderau ag eraill yn cael eu chwalu, rwy'n falch o weld, ac mae athrawon yn gweld gwerth gweithio gyda'i gilydd. Mae’r rhwydweithiau hynny’n cael eu datblygu a'u cefnogi gan y consortia. Wrth gwrs, un o agweddau allweddol ein safonau addysgu proffesiynol newydd fydd ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus gan yr athrawon eu hunain, gyda phwyslais ar barhau i ddilyn yr ymchwil diweddaraf, megis y syniadau diweddaraf am faterion addysgeg. Felly, mae hynny'n sicr yn rhan o'n dull safonau dysgu.
O ran y coleg arweinyddiaeth, rydym yn gwybod bod arweinwyr ysgolion sydd wedi achosi newid enfawr ym mherfformiad eu hysgolion. Roeddwn i’n ymweld yn ddiweddar ag ysgol lle, yn eithaf dadleuol, ychydig o flynyddoedd yn ôl, y cyflwynwyd ffederasiwn. O fewn tair blynedd, roedd dangosyddion perfformiad TGAU lefel 2 plws wedi cynyddu dros 25 y cant. O fewn tair blynedd, roedd arweinydd ysgol llwyddiannus wedi gallu dod â rhaglenni a dulliau i'r ysgol newydd honno ac, o ganlyniad, wedi gweld newid enfawr, enfawr. Yn wir, roedd y bobl a oedd yn arwain y gwrthwynebiad i’r newid llywodraethu hwnnw bellach yn dweud, 'Edrychwch arnom ni; edrychwch ar ba mor dda y mae ein hysgol wedi gwneud yr haf hwn. Ac, yn wir, mae ein graddau ni yn well na'r ysgol breifat dros y ffordd.' Roedden nhw’n falch iawn dros ben o'u cyflawniad. Felly, mae'n fater o edrych ar y mathau hynny o fodelau, oherwydd gallwn yrru cyflawniad ei flaen.
Beth yr ydym yn ei wneud ynglŷn â phynciau STEM a'r Gymraeg? Wel, rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol bod premiymau ar gael eisoes i raddedigion mewn pynciau STEM neu raddedigion sydd â sgiliau yn y Gymraeg i fynd i hyfforddi fel athrawon. Mae angen i ni edrych i weld a ydym yn cael gwerth da am arian o’r cynlluniau hynny ac a yw’r athrawon hynny, yn y pen draw, yn ein hystafelloedd dosbarth. Rydym yn gwerthuso hynny, ond dyna un ffordd o’i wneud.
O ran athrawon rhyngwladol, mae’n rhaid imi ddweud, Darren, yn hytrach nag ystyried pa rwystrau yr ydym ni wedi eu creu i athrawon sy'n cymhwyso i addysgu yng Nghymru, mae’n rhaid meddwl pa rwystrau y mae’r Swyddfa Gartref a'r gwasanaeth mewnfudo wedi’u creu yng Nghymru. Rydym wedi ein rhwystro gan y system sydd wedi ei rhoi ar waith gan y Swyddfa Gartref a'r system fewnfudo yn San Steffan, sydd mewn gwirionedd yn cyfyngu ar allu pobl o dramor i ddod i weithio yn y wlad hon, ac nid dim ond ym maes addysgu. Y llynedd, cawsom y traed moch o ran nyrsys, lle’r oedd angen taer am nyrsys yn y wlad hon a bu'n rhaid i ni gael caniatâd arbennig dim ond ar gyfer y gaeaf er mwyn caniatáu i nyrsys o dramor ddod yma. Felly, mewn gwirionedd, nid yma yng Nghymru y mae’r rhwystrau; mae'r rhwystrau yn rhai sydd wedi’u creu—[Torri ar draws.]—wedi’u creu gan San Steffan rhag caniatáu i bobl o dramor ddod i fyw a gweithio yn y wlad hon.
Ond, fel y dywedais i, mae angen i ni gadw cydbwysedd rhwng datblygiad proffesiynol parhaus yr athrawon sydd eisoes yn y system, ond mae'n rhaid i ni sicrhau bod ein cynnig addysg gychwynnol i athrawon yn iawn, oherwydd, os na wnawn, ni fyddwn yn gallu gweld y gwelliannau yn safonau ysgolion yr hoffech chi a minnau eu gweld.