Part of the debate – Senedd Cymru am 4:12 pm ar 20 Medi 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad. Mae hwn yn faes sy’n sicr yn flaenoriaeth i ni ym Mhlaid Cymru, a dyna pam, wrth gwrs, yr oeddem ni’n benderfynol o gael ymrwymiad yn y maes yma yn rhan o’r cytundeb ôl-etholiadol. Mi ydym ni’n wynebu argyfwng ac, yn wyneb argyfwng o’r math yma, mae angen gweithredu brys. Mae yna lai o feddygon teulu y pen yng Nghymru nag yng ngwledydd eraill y Deyrnas Unedig. Ac, yn ail, mae’r galw arnyn nhw yn cynyddu. Felly, mae hi’n eithaf clir nad ydy’r sefyllfa sydd gennym ni ar hyn o bryd yn gynaliadwy. Rwy’n croesawu sawl elfen o’r datganiad ond, mae yna sawl peth, rydw i’n meddwl, yn annigonol, yn aneglur, neu ar goll o’r datganiad. Felly, mi ofynnaf bedwar o gwestiynau.
Mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi sôn am system gymell i rai swyddi. Rydw i’n cymryd mai mewn ardaloedd lle mae recriwtio yn anodd y byddai hynny. A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau y byddai hynny’n cynnwys cymhellion i wasanaethu dros amser yn hytrach na dim ond cymhellion byr dymor i lenwi swyddi byr dymor? Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n edrych yn hirdymor, wrth gwrs. Mae yna ambell i elfen hirdymor, o bosibl, sydd ddim yma. Nid oes sôn am recriwtio myfyrwyr o Gymru i astudio meddygaeth yn y lle cyntaf. Nid oes yna chwaith sôn am recriwtio myfyrwyr ysgol i fod eisiau dilyn gyrfa fel meddyg teulu—rhywbeth y mae gennyf ddiddordeb ynddo—ac i fynd i astudio meddygaeth efo’r golwg o’r cychwyn, os liciwch chi, i fynd i mewn i ofal sylfaenol. Tybed a ydy’r Ysgrifennydd Cabinet yn fodlon ymchwilio i waith a allai gael ei wneud yn y maes yna.
Y trydydd cwestiwn gennyf i: mi ddywedodd y Prif Weinidog mewn cyfweliad ar y radio y bore yma, wrth gyfeirio at niferoedd y meddygfeydd teulu sydd wedi cael eu rhoi yn ôl yn nwylo’r byrddau iechyd, nad oedd hynny, yn angenrheidiol, yn ddrwg o beth. A ydy hynny’n golygu bod anelu at gael rhagor o feddygfeydd wedi’u rheoli’n uniongyrchol gan fyrddau iechyd yn rhywbeth y byddech chi’n dymuno mynd ar ei ôl, a hyd yn oed yn dod yn rhywbeth y byddech chi fel Llywodraeth yn ei ffafrio o hyn ymlaen?
Ac yn olaf—mae hyn yn gwbl hanfodol—a gaf i ofyn pa darged y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn fodlon ei osod ar gyfer nifer y meddygon teulu ychwanegol y mae o eisiau eu cael, neu niferoedd y meddygon teulu y bydd gennym yng Nghymru erbyn 2021? Os ystyriwch chi: yn dechnegol, byddai cael un meddyg teulu rhan-amser newydd yn golygu ehangu’r ddarpariaeth o feddygon teulu. Ond, beth yw’r targed sydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei feddwl o? Mae Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu, er enghraifft, wedi dweud ein bod ni angen 400 o feddygon teulu ychwanegol yng Nghymru. A oes unrhyw reswm ym meddwl yr Ysgrifennydd Cabinet pam na fyddai’r ffigur hwnnw’n darged priodol?