Part of the debate – Senedd Cymru am 4:52 pm ar 20 Medi 2016.
Diolch i chi, Lywydd. Mae gwella lles pobl yng Nghymru a’u galluogi i fod yn fwy egnïol yn ymrwymiad maniffesto allweddol i ni. Mae cerdded a beicio yn arbennig yn cynnig llu o fanteision i unigolion, i gymdeithas ac i'r blaned.
Mae Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth y Cynulliad blaenorol, wedi sefydlu fframwaith newydd a fydd yn sicrhau y gallwn wireddu'r manteision hyn. Rydym yn dechrau ar sylfaen isel. Y llynedd, dim ond 6 y cant o oedolion yng Nghymru oedd yn teithio ar feic unwaith yr wythnos neu fwy a 63 y cant yn cerdded. Mae hyn yn golygu nad yw traean yr oedolion yng Nghymru yn gwneud unrhyw deithiau cerdded neu feicio mewn wythnos arferol. Yn yr un modd, dim ond 49 y cant o blant oedran ysgol gynradd sy’n cerdded i'r ysgol fel arfer a dim ond 2 y cant sy’n beicio, a cheir ffigurau hyd yn oed yn is ar gyfer plant ysgol uwchradd.
Mae'r ffigurau diweddaraf yn amcangyfrif bod anweithgarwch corfforol yn costio £51 miliwn y flwyddyn i'r GIG yng Nghymru. Rydym am helpu pobl ledled Cymru i gynyddu eu gweithgarwch corfforol trwy ddarparu ffordd o wneud cerdded a beicio pellteroedd byr yn rhywbeth arferol. Bydd hyn yn helpu i wella iechyd corfforol a meddyliol ein cenedl, arbed arian i bobl a busnesau, gwella ansawdd yr aer, lleihau tagfeydd ac allyriadau carbon, ac yn gwella ein cefnogaeth o siopau a busnesau lleol.
Elfen allweddol o hyn yw ein deddfwriaeth arloesol, Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, a weithredwyd yn gyntaf bron dwy flynedd yn ôl. Ers hynny, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran newid y ffordd yr ydym yn ymdrin â cherdded a beicio yng Nghymru. Erbyn hyn mae gennym ein safonau dylunio cenedlaethol, sy'n nodi'n glir yr hyn yr ydym yn ei ddisgwyl o’r seilwaith cerdded a beicio. Rydym yn disgwyl gallu defnyddio’r seilwaith yn ddiogel ac yn gyfforddus, a diwallu anghenion defnyddwyr yn wirioneddol. Bydd y safonau hyn yn helpu i drawsnewid llwybrau ar draws Cymru yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Rydym wedi cynnal arolwg cynhwysfawr o’r seilwaith cerdded a beicio presennol yng Nghymru, a gwblhawyd yn ystod gwanwyn 2015. Ar y sail hon, roedd awdurdodau lleol yn gallu archwilio a nodi’r llwybrau presennol yn eu trefi, yr ymgynghorwyd arnynt a’u cyflwyno i ni, ar eu mapiau o lwybrau presennol eleni. Mae awdurdodau lleol bellach wedi dechrau gweithio ar y cam nesaf, lle rydym yn bwriadu ystyried yr hyn yr ydym yn dymuno ei gael ar gyfer y dyfodol, yn hytrach nag edrych ar yr hyn sydd gennym yn barod. Bydd hyn yn arwain at gyflwyno'r set gyntaf o fapiau rhwydwaith integredig ar gyfer 142 o leoedd yng Nghymru fis Medi nesaf. Mae'n hollbwysig bod y broses o gynllunio’r rhwydweithiau hyn yn sicrhau ein bod yn ymgysylltu’n well â chynifer o ddefnyddwyr cyfredol a newydd â phosibl. Bydd hyn yn sicrhau bod eu barn a'u gwybodaeth yn helpu i gysylltu’n effeithiol y mannau cychwyn a’r cyrchfannau y mae angen i bobl deithio rhyngddynt.
Mae annog pobl i gerdded a beicio wrth deithio bob dydd yn gofyn am fwy na seilwaith da, er mor bwysig yw hynny. Mae angen i ni newid agwedd pobl tuag at gerdded a beicio, a chefnogi datblygiad diwylliant teithio llesol newydd yng Nghymru. Mae ein cynllun gweithredu ar gyfer teithio llesol, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror eleni, yn nodi'r camau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i gefnogi'r newid hwn. Mae'n ategu'r gwaith ehangach ar gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol yng Nghymru dan y cynllun 'Cael Cymru i Symud', a fydd yn llywio ein strategaeth byw’n iach a gweithgar, i'w chyhoeddi yn ddiweddarach eleni.
Mae'r cynllun gweithredu yn cynnwys ein rhaglen Teithiau Llesol proffil uchel, sy'n cefnogi’r gwaith o hyrwyddo ac ymgysylltu teithio llesol mewn llawer o ysgolion ar draws Cymru. Yn ei blwyddyn gyntaf, mae 230 o ysgolion i gyd wedi elwa ar y rhaglen newydd. Mae hyn yn amrywio o wneud gwaith mwy dwys gydag ysgolion, gan gynnwys ceisio cyfranogiad disgyblion mewn cynlluniau Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, i ddarparu cyngor a gwybodaeth. Roedd y rhaglen waith yn cynnwys ysgolion uwchradd am y tro cyntaf. Gwnaeth pedwar deg pump o ysgolion uwchradd elwa ar y rhaglen, a’r rhan fwyaf ohonynt yn cynnal gweithdai i sicrhau mewnbwn gan fyfyrwyr yn y broses o fapio rhwydwaith integredig.
Rydym hefyd yn cefnogi Her Teithio Cymru, sy'n targedu gweithleoedd ar draws Cymru. Ceir tair her, â’r bwriad yw ysgogi dros 4,500 o weithwyr ar draws Cymru i gynyddu pa mor aml maent yn teithio’n llesol a pha mor aml maent yn defnyddio cludiant cyhoeddus ar gyfer teithiau bob dydd, yn lle teithiau car gydag ond un gweithiwr yn y car. Cynhaliwyd yr her gyntaf ym mis Mai lle’r oedd dros 700 o gyfranogwyr wedi cofnodi 6,500 o deithiau a lle’r oedd teithiau cerdded a beicio wedi cymryd lle 32 y cant o deithiau car. Mae’r ail her yn dechrau ar 10 Hydref.
Mae cynyddu lefelau teithio llesol yng Nghymru yn rhywbeth sy’n gofyn am gamau gweithredu gan lawer o bleidiau, o fewn y Llywodraeth a'r tu allan. Mae gan awdurdodau lleol swyddogaeth allweddol er mwyn cyflawni hyn, ac rwy’n ddiolchgar iawn am y proffesiynoldeb a'r brwdfrydedd a gafwyd gan lawer ohonynt wrth gofleidio'r heriau o weithredu'r ddeddfwriaeth newydd hon. Rwy’n gweithio'n agos ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, ac rydym yn cytuno ar bwysigrwydd hanfodol sicrhau bod teithio llesol yn rhan annatod o gynllunio prosiectau mawrion yn ymwneud â seilwaith trafnidiaeth, megis y prosiectau metro yn y gogledd a’r de, er mwyn sicrhau bod ein rhwydwaith trafnidiaeth yn wirioneddol integredig, yn effeithlon ac o ansawdd uchel. Rwyf hefyd yn cydweithio â’m cydweithwyr eraill yn y Llywodraeth i sicrhau y cyflawnir camau gweithredu a dyletswyddau Llywodraeth Cymru, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda'r bwrdd teithio llesol, y byddaf yn mynd i’w gyfarfod nesaf ar 5 Hydref. Thank you.