Part of the debate – Senedd Cymru am 4:57 pm ar 20 Medi 2016.
A gaf i ddiolch i’r Gweinidog am ei datganiad? A allaf i groesawu’r manylion sydd gerbron ar y diweddariad yma ar deithio llesol? Wrth gwrs, cawsom ni drafodaeth fer ar y pwnc yma o ffitrwydd yn y pwyllgor iechyd yr wythnos diwethaf a bydd y Gweinidog yn cofio i ni sôn am bwysigrwydd ffitrwydd a phwysigrwydd cadw’n heini i ni i gyd, o ba bynnag oedran, ond yn enwedig wrth i ni ddylanwadu ar ein plant achos mae’n sefydlu ymddygiad am oes.
Ond mae ffitrwydd o gadw’n heini—. Mae rhai astudiaethau, fel y gwnes i grybwyll wythnos diwethaf, yn dangos gostyngiad o 30 y cant yn lefel y siwgr yn eich gwaed os ydych chi’n ffit o gymharu â phan nad ydych chi’n ffit, gostyngiad o 30 y cant yn eich pwysau gwaed, a gostyngiad hefyd o 30 y cant yn lefel eich colesterol ac yn eich pwysau. Beth sy’n cael ei nodi o hynny, wrth gwrs, ydy petai ffitrwydd yn dablet neu yn gyffur, gyda’r gostyngiad sylweddol yna yn yr elfennau yna o 30 y cant, byddai pawb yn clochdar ac yn sgrechain ar i NICE adael i ni feddygon fod yn ei ragnodi cyn pen dim. Dyna pam mae ffitrwydd yn haeddu llawer mwy o sylw nag mae o’n ei gael. Mae o’n llawer mwy effeithiol na’r rhan fwyaf o dabledi sydd gennym ni i fynd i’r afael efo’r materion hyn.
Ond, gan fynd yn ôl at y datganiad, dyna pam roeddwn i’n synnu braidd at eich trydydd paragraff, pan ŷch chi’n dweud bod y ffigurau diweddaraf ynglŷn â’r gost o beidio â chadw’n ffit i’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn £51 miliwn y flwyddyn. Buaswn i’n meddwl, o gofio’r holl gostau yna o fynd i’r afael â gordewdra sydd gennym ni, y byddai’r arbediad yn nhermau ariannol yn llawer mwy na £51 miliwn y flwyddyn. Mae hwnnw jest yn edrych fel ffigwr isel iawn i mi, mae’n rhaid imi ei ddweud, i fynd i’r afael â’r sefyllfa yma.
Yn benodol, ar eich ymrwymiad o dan y Ddeddf yma ynglŷn â theithio llesol, a allaf ofyn sut y mae teithio llesol yn cael ei gysidro yn y trafodaethau bydd pobl yn eu cael ar y fasnachfraint rheilffyrdd? Ac, yn benodol, felly, pan ydych chi’n sôn dylai mwy o blant ac ati fod yn cerdded i’r ysgol neu yn seiclo i’r ysgol, wrth gwrs, materion diogelwch sy’n cael eu henwi fel rhai o’r pethau sydd yn amharu ar allu pobl unai i gerdded neu i farchogaeth beic i’r ysgol. Sut ydych yn ymdrin, felly, ag amheuon ynglŷn â diogelwch fel rhan o’r materion teithio llesol yma?
Yn olaf, wrth gwrs, hefyd—yn enwedig pan ydych chi’n sôn am weithlu sydd, yn lle mynd yn eu car i’r swyddfa, nawr yn mynd unai i gerdded, rhedeg neu farchogaeth beic i’r swyddfa—mae yna oblygiadau ynglŷn â gorfod datblygu cyfleusterau fel toiledau, cawodydd a storfeydd beiciau i gyd-fynd efo’r llwybrau teithio llesol yma. Sut mae trafodaethau’n mynd ymlaen i wneud yn siŵr bod y cyfleusterau i gyd-fynd efo’r dyhead hefyd mewn lle? Wedi dweud hynny i gyd, a gaf i groesawu, fel y bydden nhw’n dweud yn Saesneg, ‘the direction of travel’. Diolch yn fawr.