Part of the debate – Senedd Cymru am 5:14 pm ar 20 Medi 2016.
Diolch i chi, Weinidog, am eich datganiad ac am yr ymroddiad personol yr ydych chi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi wedi ei ddangos ar gyfer yr agenda hon.
Mewn sawl ffordd, pasio’r ddeddfwriaeth yw'r rhan hawdd yn y prosiect hwn. Dyma brosiect uchelgeisiol sy’n ymwneud â sawl cenhedlaeth i geisio newid agweddau ac ymddygiad. Ac er bod gennym, drwy fodolaeth y Ddeddf, rai canllawiau dylunio blaengar iawn, fwy na thebyg y canllawiau dylunio mwyaf blaenllaw yn y DU, yr hyn sy’n bwysig yw sut y caiff y prosiect ei weithredu. Er enghraifft, yn fy etholaeth i fy hun, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi adeiladu dau ddarn newydd o lwybrau beicio ar hyd y brif ffordd rhwng Llangennech a Dafen yn ddiweddar, ac yn hytrach na dilyn y canllawiau sy'n dweud y dylid cael llwybr 3m o led, maen nhw wedi penderfynu adeiladu dau lwybr: llwybr 1.5m o led ar un ochr, a llwybr 1.5m o led ar yr ochr arall, gydag arwyddion 'un ffordd' ar y ddwy ochr. Nid wyf erioed wedi gweld arwydd 'un ffordd' ar lwybr beicio o'r blaen, ac mae'n annhebygol y bydd yn cael llawer o sylw.
Felly, mae'n hanfodol ein bod yn ymgysylltu â'r gynulleidfa darged yma, nid y bobl sydd eisoes yn beicio; ond y bobl nad ydynt erioed wedi beicio. Mae hyn, wedi'r cyfan, yn ymwneud â newid ymddygiad, ac felly mae'n arbennig o siomedig yn yr ymgynghoriad ar y mapiau cyntaf mai dim ond tua 30 o bobl yr ymgynghorwyd â nhw gan bob awdurdod lleol ledled Cymru. A fyddai hi’n gwneud ei gorau i sicrhau y byddwn, ar gyfer yr ymgynghoriad ar fersiwn nesaf o'r mapiau—y mapiau lle byddem yn hoffi gweld y llwybrau—yn ymgysylltu â chymaint o bobl ag y bo modd, fel rwy’n dweud, nid â’r bobl sydd eisoes yn beicio ac yn cerdded, ond y bobl nad ydynt yn beicio nac yn cerdded?