Part of the debate – Senedd Cymru am 5:13 pm ar 20 Medi 2016.
Diolch i chi am groesawu’r cynllun ac am y gefnogaeth rwy’n credu ein bod wedi ei chael ar draws y Siambr yma yn y Cynulliad heddiw. O ran y gweithle, rwy’n credu bod cyfle i gyflogwyr gefnogi ymdrechion eu gweithwyr i wneud teithiau llesol, er enghraifft drwy ddarparu cawodydd yn y gweithle ac yn y blaen. Gwn ein bod yn sicr yn darparu’r math hwnnw o gyfleuster yma yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mae ein Her Teithio Cymru, y cyfeiriais ati yn y datganiad ar y dechrau, yn gyfle i weithleoedd ymgysylltu â'r hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni yma. Mae llawer o weithleoedd hefyd yn gweithio tuag at y safon iechyd corfforaethol, sef Cymru Iach ar Waith, sy’n gyfle i weithleoedd ddangos i'w gweithwyr eu bod yn cymryd eu hiechyd o ddifrif a’u bod yn barod i fuddsoddi ynddynt a’u cefnogi ar gyfer y dyfodol hefyd.
Rwy'n awyddus iawn—. Gwnaethoch chi sôn am ymgysylltu â phobl o oedran cynnar, ac mae hynny'n bwysig oherwydd mae’n rhaid dangos bod cerdded a beicio yn gyfle i bawb. A dyna pam mae’n bwysig iawn fod ein dull ni o weithredu teithio llesol hyd yn hyn wedi ymgysylltu â phobl ar draws yr holl gymunedau, gan ganolbwyntio’n benodol ar sut y gallwn ymgysylltu â chymunedau ac unigolion sy’n anodd eu cyrraedd â’r agenda teithio llesol. Felly, cawsom gynhadledd teithio llesol, a oedd yn edrych yn benodol ar hyn ac ar ein hymdrechion i gynyddu cyfranogiad ymhlith pobl anabl, menywod, grwpiau lleiafrifoedd ethnig a phobl hŷn. Nid ydym am i bobl deimlo efallai nad yw hyn ar eu cyfer nhw, oherwydd mae yna deithiau y gall y rhan fwyaf ohonom eu gwneud ar droed neu ar feic.