Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 21 Medi 2016.
A yw’r Gweinidog yn ymwybodol fod llawer o bobl yng Nghaerdydd yn credu ein bod angen maer etholedig? Mae’r ddinas yn cael ei rhedeg gan bobl anweledig ar hyn o bryd, sydd, i bob pwrpas, yn cael eu hethol gan lond llaw o bobl. Nawr, rwy’n amau y byddai’n well ganddynt ei chadw felly. Ac rwy’n deall bod detholiadau Plaid Lafur Llanisien bellach yn digwydd yn swyddfa etholaeth yr Aelod ar y chwith i mi—mae’n bosibl y bydd hi eisiau cadarnhau hynny, neu beidio—a’r rhestrau byrion, er enghraifft, neu’r detholiadau, yn cael eu cynnal yn ystafell flaen elît Llafur Newydd. Mae hyn yn creu datgysylltiad rhwng y cyhoedd a’r cyngor, yr aelodau etholedig, ac rydym yn gweld system yn y wlad hon nad yw’n addas at y diben, a bod yn onest. A wnewch chi, fel Gweinidog, gefnogi refferendwm i Gaerdydd ar gael maer etholedig a rhoi amserlen ar waith?