1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 21 Medi 2016.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y broses i sefydlu meiri etholedig yng Nghymru? OAQ(5)0019(FLG)
Mae strwythur gwleidyddol, gan gynnwys maer a etholir yn uniongyrchol, yn opsiwn sydd ar gael i bob un o brif gynghorau Cymru, naill ai o ganlyniad i’r cyngor yn penderfynu mynd ar drywydd hynny, neu mewn ymateb i ddeiseb gyhoeddus. Yn y ddau achos, mae angen refferendwm lleol.
Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn edifar am y penderfyniad i godi’r trothwy sydd ei angen i sbarduno refferendwm? Oherwydd rydym bellach wedi gweld bod y defnydd o feiri etholedig wedi adfywio llywodraeth leol ar hyd a lled y DU ac yn wir, dyna sydd wrth wraidd datganoli yn Lloegr. Mae llawer o bobl yn teimlo y dylid cyflwyno’r cwestiynau hyn i’r etholwyr o leiaf, heb amodau afresymol o uchel i sbarduno’r broses.
Lywydd, nid wyf yn edifar am y lefel o 10 y cant yng Nghymru. Nid wyf yn ei ystyried yn afresymol o uchel. O ystyried bod gennym rai etholaethau cymharol fach mewn rhai cynghorau yng Nghymru, rwy’n credu bod trothwy o 10 y cant o’r etholwyr i sbarduno refferendwm yn ateb ein hanghenion a’n hamgylchiadau.
A yw’r Gweinidog yn ymwybodol fod llawer o bobl yng Nghaerdydd yn credu ein bod angen maer etholedig? Mae’r ddinas yn cael ei rhedeg gan bobl anweledig ar hyn o bryd, sydd, i bob pwrpas, yn cael eu hethol gan lond llaw o bobl. Nawr, rwy’n amau y byddai’n well ganddynt ei chadw felly. Ac rwy’n deall bod detholiadau Plaid Lafur Llanisien bellach yn digwydd yn swyddfa etholaeth yr Aelod ar y chwith i mi—mae’n bosibl y bydd hi eisiau cadarnhau hynny, neu beidio—a’r rhestrau byrion, er enghraifft, neu’r detholiadau, yn cael eu cynnal yn ystafell flaen elît Llafur Newydd. Mae hyn yn creu datgysylltiad rhwng y cyhoedd a’r cyngor, yr aelodau etholedig, ac rydym yn gweld system yn y wlad hon nad yw’n addas at y diben, a bod yn onest. A wnewch chi, fel Gweinidog, gefnogi refferendwm i Gaerdydd ar gael maer etholedig a rhoi amserlen ar waith?
Na wnaf.
Rwy’n ei chael hi ychydig yn rhyfedd fod yna ddau Aelod yma yn crochlefain am haen ychwanegol o fiwrocratiaeth. Nid wyf yn credu ei bod yn angenrheidiol. Cawsom ymgais yn ddiweddar i gyflwyno maer a etholir yn uniongyrchol yng Nghaerdydd gan gynghorydd Llafur, Ashley Govier. Bu farw’r syniad i raddau helaeth oherwydd diffyg cefnogaeth boblogaidd. Felly, byddwn yn croesawu’r hyn y mae’r Gweinidog wedi’i ddweud hyd yma. Pe bai’n gallu rhoi sicrwydd pellach i mi, gyda newid deddfwriaethol pellach yn y Cynulliad hwn, na fydd gennym sefyllfa lle bydd ardal yn cael ei gorfodi i gael maer a etholir yn uniongyrchol pan na fydd yr ardal honno yn dymuno hynny o bosibl.
Lywydd, mae’n bwysig fy mod yn gwneud fy safbwynt yn glir. Rwyf o blaid yr hawl i awdurdodau lleol a phoblogaethau lleol ddewis eu strwythur gwleidyddol eu hunain. Mae hynny’n golygu bod y dewis ar gael i’r awdurdodau a’r poblogaethau hynny lle maent yn dewis cefnogi maer lleol. Lle nad ydynt yn dewis cefnogi hynny, i ateb cwestiwn yr Aelod, nid oes gennyf unrhyw gynlluniau o gwbl i’w orfodi arnynt.