Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 21 Medi 2016.
Diolch i’r Aelod am hynny. Rwy’n siŵr y bydd yn gyfarwydd â safbwynt yr hanesydd Rhufeinig, Tacitus, fod gan fuddugoliaeth lawer o dadau—mae methiant yn amddifad, ond mae gan fuddugoliaeth lawer o dadau. Felly, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith wedi gwneud cyhoeddiad mewn perthynas â’r banc buddsoddi. Caiff ei gefnogi gan gyllid y byddaf yn ei ryddhau drwy fy mhortffolio. Bydd yn gweithredu ar hyd a lled Cymru. Mae’n bwysig iawn—rwy’n cytuno â’r Aelod—fod yn rhaid i ni ddangos ein bod yn bwrw iddi dros Gymru gyfan. Yng ngogledd Cymru, mae ein cynlluniau ar hyn o bryd yn cynnwys buddsoddi mewn 240 a rhagor o gynlluniau, gyda chyfanswm buddsoddiad cyfalaf Llywodraeth Cymru yn werth mwy na £1.3 biliwn, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd y banc buddsoddi yn ein galluogi i barhau i gyflawni’r datblygiad hwnnw ymhellach ac yn gyflymach.