Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 21 Medi 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gwelsom amgylchiadau, megis yn fy etholaeth i pan wnaeth Tata y cyhoeddiadau ym mis Ionawr, a oedd yn galw am weithredu ar unwaith gan Lywodraeth Cymru. Yn amlwg, roedd y cymorth busnes a roddwyd i’r busnesau hynny sy’n bwydo i mewn i Tata yn hanfodol yn hynny o beth. A fydd cynllunio’n digwydd yn y dyfodol i sicrhau bod digon o arian yn y portffolio ar gyfer unrhyw gyfleoedd a allai godi yn y dyfodol o ganlyniad i gamau megis rhai Tata fis Ionawr diwethaf?