Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 21 Medi 2016.
Gan fod Plaid Cymru wedi bod yn galw am fanc datblygu ers y 1970au, rydym yn falch iawn o weld ei fod yn digwydd o’r diwedd. Ond y cwestiwn sydd gennyf i Ysgrifennydd y Cabinet mewn gwirionedd yw hwn: yn ôl datganiad y Llywodraeth, mae’r benthyca blynyddol yr anelir ato yn y pen draw oddeutu £80 miliwn. Mae hynny’n llai nag un rhan o bump o’r bwlch ariannu o £500 miliwn a ddyfynnwyd gan astudiaeth ddichonoldeb y Llywodraeth ei hun, sef y sail dros greu’r banc. Pam y bwlch rhwng y bwlch ariannu a’r hyn y mae’r Llywodraeth yn argymell ei wneud?